Morgannwg yn colli'n drwm eto
- Cyhoeddwyd

Mae Morgannwg wedi cael cweir arall yn y Gwpan Undydd - yn erbyn Durham y tro hwn.
Yr ymwelwyr i Stadiwm Swalec alwodd yn gywir a dewis batio, er efallai'n difaru gwneud hynny pan oedd y capten Mark Stoneman allan i ail belen y dydd gan Michael Hogan.
Ond wedi hynny fe wnaeth y batwyr - yn enwedig Ben Stokes a Phil Mustard - yn dda i gyrraedd cyfanswm o 185 er iddyn nhw golli eu wicedi i gyd o fewn 45 pelawd.
Roedd gan Forgannwg yr 50 pelawd llawn i gyrraedd y nod, ond aeth y dasg o wneud hynny bron yn amhosib pan gollon nhw dair wiced mewn pum pelen gan Graham Onions.
Er gwaetha ymdrech wych gan Jacques Rudolph (61) daeth ymgais Morgannwg i ben ar 133 a'u gobeithion o fynd ymhellach yn y gystadleuaeth eisoes yn deilchion.
Sgor Terfynol:-
Durham = 185 (45 pelawd)
Morgannwg = 133 i gyd mas (41.1 pelawd)
Durham yn fuddugol o 52 rhediad.