Yr heddlu yn dod o hyd i blanhigion canabis ar ôl tân

Cyhoeddwyd

Dywed yr heddlu yn ardal Wrecsam eu bod nhw'n credu iddyn nhw ddarganfod ffatri ganabis yn dilyn tân mewn tŷ yn Rhosllannerchrugog.

Mae'n debyg fod y tân wedi cychwyn yn nho'r adeilad yn Stryt y Farchnad, ychydig cyn 06:00 ddydd Mercher.

Fe wnaeth y fflamau ledu i dai cyfagos a bu criwiau wrthi tan tua 09:00 yn ceisio eu rheoli.

Daeth swyddogion o hyd i nifer o blanhigion canabis yn dilyn y tân.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu ond bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi.

Mae'r heddlu a'r frigâd dân wedi lansio ymchwiliad ar y cyd ar ôl darganfod y planhigion canabis.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am y planhigion gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru.

ffynhonnell y llunDavid Thomas Jones
disgrifiad o’r llunCafodd y criwiau eu galw i Stryt y Farchnad ddydd Mercher
ffynhonnell y llunDavid Thomas Jones
ffynhonnell y llunDavid Thomas Jones
ffynhonnell y llunDavid Thomas Jones

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol