Academydd: 'Llenladrad oedd nofel am y Rhyfel Mawr'

Yr Athro Williams
Image caption Cafodd yr Athro Williams ei syfrdanu gan y darganfyddiad

Mae academydd wedi dweud mai llenladrad yw'r llyfr oedd yn cael ei ystyried yn un o'r "nofelau mawr am y Rhyfel Byd Cyntaf".

Cafodd Gwaed Gwirion gan Emyr Jones ei chyhoeddi yn 1965. Enillodd y gyfrol wobr Griffith John Williams a Saunders Lewis oedd un o'r rhai ganmolodd hi.

Mae hi'n adrodd hanes milwr ac roedd sylw i'w dawn dweud a'i phortread realistig o fywyd milwr.

Yr Athro Gerwyn Williams yw awdur y gyfrol Tir Neb am lenyddiaeth Gymraeg y Rhyfel Mawr.

Fe gafodd ei gomisiynu i wneud rhaglen ddogfen am Gwaed Gwirion, rhaglen oedd yn rhan o gyfres am hanes y rhyfel.

Darganfyddiad

Roedd wedi poeni na fyddai ganddo ddim byd newydd i'w ddweud am y gyfrol gan ei fod wedi ei dadansoddi gyfer Tir Neb.

"Fe'm gobsmacwyd," meddai, wrth gyfeirio at y foment pan wnaeth "y clychau i gyd ddechrau canu".

Image copyright S4C
Image caption Bu farw Emyr Jones yn 1999

Yn araith flynyddol Coleg Cenedlaethol Cymru yn y Babell Lên, fe ddarllenodd dudalen gyntaf pedwaredd bennod llyfr o'r enw Hell on Earth.

Cafodd hwn ei ysgrifennu gan F Haydn Hornsey fuodd yn y rhyfel. Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn 1930.

Ymchwil

Roedd yr Athro Williams wedi dod ar ei draws ar ôl ailddarllen Gwaed Gwirion a sylwi bod yr awdur yn cyfreirio ato yn ei ragair.

Felly gwnaeth dipyn o ymchwil a llwyddo i ddod o hyd i gopi o nofel Mr Hornsey yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Wedi darllen y tair bennod gyntaf doedd y ddwy nofel ddim i'w gweld yn debyg iawn ond pan gyrrhaeddodd y bedwaredd bennod cafodd sioc.

Ail baragraff Gwaed Gwirion:

Ben bora drannoeth mi gychwynnodd rhyw gant ohonon ni hefo un o'r offisars i chwilio am ein bataliwn ni, a oedd i fod fyny'r ffrynt yn rhywla'n disgwyl amdanon ni. Duw a wyr pa mor bell ddaru ni drampio - milltiroedd ar filltiroedd - a cholli'r ffordd sawl gwaith. Mi ddoth yn nos a ninna' heb ddod o hyd i'r fataliwn ac wedi cael llond'n bolia' ar grwydro. Roedd swn y tanio'n llawer nes erbyn hyn. Toc, mi ddaethon i bentra' arall ac 'roedden ni'n meddwl yn siwr y basa' rhai o'n bataliwn ni yno'n rhywla. Ond na, 'roeddan nhw wedi 'madal y bora hwnnw, a 'wydda neb i ble.

Paragraff agoriadol pennod 4 Hell on Earth:

Early next morning about a hundred of us and an officer started for the front to join our unit - who were already up there somewhere. God knows how far we tramped - miles and miles. We continually lost our way. It would soon be night and still we had not found our unit. We were all fed up. The firing was nearer and then at last we arrived at the village where we expected to find our unit - only to discover that they had gone up the line somewhere that morning and no one knew where.

Image caption Fe roddodd teulu Emyr Jones eu sel bendith i'r cyhoeddiad newydd

Dywedodd yr Athro Williams: "Wel, cyfieithiad digywilydd oedd hwn, doedd 'na ddim byd damweiniol amdano fo, ac wrth fynd ati i ddarllen mi ddaeth yn glir bod Emyr Jones wedi cyplysu rhai o benodau Hell on Earth, mae o wedi cwtogi ac ail-drefnu yma a thraw ac wedi ychwanegu ambell bwt.

"Ond doedd dim o'r newidiadau yn ddigon arwyddocaol i wadu'r ffaith mai benthyciad systematig, hunanymwybodol a bwriadus oedd Gwaed Gwirion."

Er bod hyn yn "siom fawr" iddo doedd o ddim yn fodlon diystyru gwerth Gwaed Gwirion yn llwyr, gan ddweud nad oedd modd gwadu talent ysgrifennu Emyr Jones.

Mae'r hanes yn cael ei adrodd yn llawn yn argraffiad newydd Gwaed Gwirion ac mae clawr y llyfr yn dweud ei fod yn addasiad o Hell on Earth gan F Haydn Hornsey.

Yn ogystal mae'r rhaglen ddogfen Gwaed Gwirion ar wefan Clic S4C.