Cyngor Wrecsam yn gwrthod cais am grant i Blas Madoc
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Wrecsam wedi gwrthod cais am grant o £50,000 gan rai sy'n ceisio ailagor Canolfan Hamdden Plas Madoc.
Caeodd y ganolfan ym mis Ebrill fel rhan o gynllun toriadau'r cyngor.
Ond mae Ymddiriedolaeth Gymunedol Splash wedi paratoi cynllun busnes er mwyn agor y pwll nofio a'r ganolfan hamdden.
Y dyddiad ar gyfer dymchwel yr adeilad yw 30 Medi.
Dydd Mawrth cyflwynodd cynghorwyr Annibynnol gynnig gerbron bwrdd gweithredol yr awdurdod, hynny yw gofyn am grant i helpu dechrau'r broses o wneud ceisiadau am arian.
Gohirio
Maen nhw hefyd wedi galw am ohirio'r dyddiad dymchwel tan ddiwedd mis Hydref.
Ond cafodd y cynnig ei wrthod o chwe phleidlais i ddwy.
Bydd adroddiad gerbron y cyngor ar 9 Medi lle bydd penderfyniad ynglŷn â throsglwyddo'r ganolfan i'r ymddiriedolaeth.
Mae aelodau'r grŵp wedi mynegi eu pryderon y byddai hyn yn golygu ychydig iawn o amser i recriwtio staff newydd.