Merched Cymru 3-25 Merched Awstralia

Robyn Wilkins Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency
Image caption Robyn Wilkins sgoriodd unig bwyntiau Cymru yn y golled yn erbyn Awstralia.

Ni fydd Merched Cymru'n mynd ymhellach yng Nghwpan y Byd ar ôl colli ei hail gêm grŵp yn y gystadleuaeth brynhawn Mawrth.

Collodd Cymru o 26-0 yn erbyn Ffrainc ddydd Gwener yn eu gêm agoriadol ddydd Gwener, ac felly roedd rhaid curo Awstralia ym Mharis er mwyn cadw gobaith o gyrraedd y rowndiau terfynol.

Ond fe gafodd Cymru ddechrau gwael wrth i'r canolwr Sharni Williams sgorio cais cynnar i Awstralia yn fuan wedi iddyn nhw gael gôl gosb. Gyda'r trosiad hefyd roedd hi'n 10-0 wedi llai na chwarter awr o chwarae.

Er i Gymru gael cyfnodau o bwyso, roedd Awstralia yn feistri ar wrthymosod, ac fe ddaeth cais arall a throsiad wedi hanner awr i'w gwneud hi'n 17-0.

Roedd hi'n ymddangos bod gobeithion Cymru ar ben pan gafodd y capten Rachel Morgan ei gyrru i'r cell cosb oherwydd troseddu cyson gan y tîm cyfan, ond yn hytrach na manteisio ar hynny fe welodd un o dîm Awstralia gerdyn melyn hefyd gan adael y ddau dîm gydag 14 o chwaraewyr ar yr egwyl.

Roedd angen dechrau da i'r ail gyfnod ar Gymru, ond Awstralia groesodd y llinell yn y gornel i ymestyn y fantais i 22-0 cyn i Robyn Wilkins lwyddo gyda chic at y pyst i'w gwneud yn 22-3.

Fe wnaeth Awstralia gwblhau'r fuddugoliaeth gyda chic gosb yn hwyr yn y gêm, gyda'r sgôr terfynol yn 25-3.