Refferendwm yn 'niweidio Cymru'

Yr Athro Richard Wyn Jones
Image caption Yr Athro Richard Wyn Jones

Mae Cymru'n "cael ei niweidio'n uniongyrchol" wrth i San Steffan frwydro i geisio cadw'r Alban yn y Deyrnas Unedig, yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Dywedodd fod y prif bleidiau unoliaethol yn cynnig "llwgrwobr enfawr" i'r Alban drwy beidio newid y ffordd mae'r gwledydd datganoledig yn cael eu hariannu.

Ond yn ôl y Farwnes Eluned Morgan o'r Blaid Lafur mae angen i Gymru roi'r gorau i ddibynnu ar gymhorthdal gan Loegr a sefyll ar ei thraed ei hun.

Roedd yr Athro Jones, Ms Morgan ac Angharad Tomos yn siarad mewn digwyddiad oedd wedi ei drefnu gan 'DU Undeb Sy'n Newid' er mwyn trafod pa effaith fydd refferendwm yr Alban yn ei chael ar Gymru.

'Annerbyniol'

Yn 2009 daeth comisiwn annibynnol, o dan arweiniad yr economegydd Gerry Holtham, i'r casgliad fod Cymru'n derbyn £300 miliwn y flwyddyn yn llai nag y dylai.

Yn ôl y comisiwn mae Fformiwla Barnett, sy'n cael ei ddefnyddio i benderfynu faint o arian mae'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn derbyn bob blwyddyn, yn "fympwyol" ac nid yw'n cymryd anghenion pob gwlad i ystyriaeth.

Gan gyfeirio ei sylwadau at Ms Morgan, dywedodd Richard Wyn Jones: "Mi oedd eich plaid chi {Llafur}, mi oedd y blaid Geidwadol... mi oedd y blaid Ryddfrydol... wedi derbyn yr angen a'r achos i ddiwygio Barnett, a be sy' wedi digwydd yn y 18 mis diwethaf ydi er mwyn cadw'r Alban yn yr undeb 'da chi wedi cynnig llwgrwobr enfawr iddyn nhw.

"Mae buddiannau Cymru wedi cael eu hesgeuluso'n gyfan gwbl. Dwi'n ei ffeindio fo'n rhyfeddol bod gwleidyddion yng Nghymru yn fodlon bod Cymru'n talu'r pris yma.

"Does 'na ddim cyfiawnder yn hynny, does 'na ddim rhesymeg, does 'na ddim rationale a dwi'n meddwl fod o'n deg i ddisgwyl i wleidyddion Cymru sefyll fyny a dweud fod hyn yn gyfan gwbl annerbyniol.

"Roedd o'n annerbyniol ddwy flynedd yn ôl, roeddech chi gyd yn derbyn bryd hynny, ac yn sydyn reit mae o'n rhywbeth sydd ddim byd i wneud efo ni bellach."

Image caption Roedd y Farwnes Eluned Morgan am weld Cymru'n peidio dibynnu ar arian o Loegr

'Helpu'n hunain'

Ond roedd Ms Morgan, sy'n aelod o Dy'r Arglwyddi, yn credu y dylai Cymru edrych ar ei hun yn gyntaf cyn mynd i gwyno ei bod yn cael ei thrin yn annheg gan San Steffan.

Dywedodd: "Be 'dw i ishe weld ydi ein bod ni'n dod i'r pwynt lle bod ni ddim yn ddibynnol ar handouts o Lundain - be dw i ishe yw ein bod ni'n tyfu'n economi i fyny, ein bod ni'n cael rhyw fath o ddiwylliant entrepreneurial sydd ddim ond nawr yn datblygu ac wedi cymryd oes i neud hynny.

"Mi fyddai hynny'n golygu ein bod ni ddim yn gorfod bod yn ddibynnol ar y tu fas drwy'r amser.

"Mae'n well da fi ein bod ni'n cael trafodaeth wahanol yng Nghymru, nid ein bod ni'n trafod trwy'r amser rhowch arian i ni o Loegr, ond beth wnawn ni gyda'n gilydd i ddatblygu'r economi sydd yn deg i bobl Cymru ac i ddatblygu mwy o waith i bobl Cymru.

"Gawn ni stopio siarad am handouts a dechrau helpu'n hunain."

Ym mis Chwefror eleni fe ddywedodd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan - pwyllgor traws-bleidiol o dan gadeiryddiaeth AS Mynyw, David Davies - bod angen edrych eto ar gyllido Cymru.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd wedi dweud bod rhaid gwneud hynny cyn cynnal refferendwm yng Nghymru am bwerau treth incwm fel gafodd ei argymell yn ail ran adroddiad Comisiwn Silk ar ddatganoli pwerau i Gymru.

Straeon perthnasol