Martin Evans i ymddangos gerbon ynadon yn Ne Affrica

Martin Evans Image copyright PA
Image caption Roedd Martin Evans, a garcharwyd am 21 mlynedd yn 2006, wedi'i ryddhau ar drwydded dros dro yn 2011

Mae dyn o ardal Abertawe a fethodd â dychwelyd i'r carchar yn 2011 ar ôl cael ei ryddhau ar drwydded ar fin ymddangos mewn llys yn Ne Affrica.

Cafodd Martin Evans, 52 oed, ei arestio gan heddlu arfog yn Johannesburg ddydd Sadwrn.

Bydd yr ynadon yn Ne Affrica yn trafod cais i'w estraddodi yn ôl i Brydain.

Cafodd ei ddedfrydu i 21 mlynedd o garchar yn 2006 am droseddau'n ymwneud â chyffuriau ac arian, a phedair blynedd am dwyll a olygodd fod dros 100 o fuddsoddwyr mewn fferm estrys wedi colli £900,000.

Fe sefydlodd Evans o Bontarddulais fusnes magu estrys yn 1995 ond aeth i'r wal gan adael buddsoddwyr heb ddim.

Diflannodd yn Awst 2011 ar ôl methu dychwelyd i garchar yn Wiltshire ar ôl cael ei ryddhau ar drwydded am benwythnos.

Roedd disgwyl i Evans ymddangos gerbron Ynadon Randburg am 13:00.

Straeon perthnasol