Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r sefyllfa yn Gaza yn cael sylw sawl un o'r blogwyr wythnos yma

Mae Blog Menai yn ddrwgdybus pan fydd dioddefaint yn cael ei ddefnyddio i bwrpas gwleidyddol - yn arbennig dioddefaint plant.

Mae'n hawdd meddai i un ochr dynnu sylw at ddioddefaint felly ar ei hochr ei hun, tra'n anwybyddu dioddefaint yr ochr arall.

Ond mae'r sefyllfa yn wahanol yn Gaza, meddai.

Mae yna anghymesuredd llwyr o ran y lladd a natur y lladd - prin iawn, iawn ydi'r sifiliaid Israelaidd a leddir - heb sôn am blant.

Ar ben hynny mae byddin Israel yn ymosod ar dargedau pan maen nhw'n gwybod bod risg uchel iawn o gymryd bywydau sifiliaid.

Yn ôl blog Anffyddiaeth 'dyw'r sefyllfa ddim mor syml â hynny.

Unig arf gwirioneddol Hamas yn y gwrthdaro meddai yw lluniau o blant Palesteinaidd meirwon, sydd yn bropaganda amhrisiadwy iddyn nhw, ac o gofio fod Hamas yn annog Palesteiniaid i aros yn eu tai pan mae taflegrau Israelaidd ar y ffordd, nid oes angen bod yn sinig llwyr i dybio bod annog mwy o farwolaethau yn dacteg fwriadol.

Yn hyn o beth, yn ôl y blogiwr, mae Hamas yr un mor elyniaethus a dirmygus tuag at y Palesteiniad cyffredin ag y mae Israel.

Ond fel yr amlyga Mererid Mair Williams ar flog Golwg, does dim unlle arall i'r bobl hyn fynd - dychmygwch fyw ym Mhen Llŷn, meddai, nid fel un o 26,000 ond fel un o 1.8 miliwn.

Dychmygwch nad oes modd gadael Pen Llŷn, ond drwy 'checkpoint' yn Llanllyfni.

Dychmygwch orfod aros yn Llanllyfni am ddyddiau yn disgwyl i filwyr ganiatáu i chi fynd drwy'r 'checkpoint'.

Dychmygwch fod aelodau eraill o'ch hil yn byw ym Mhowys ond mae bron yn amhosib cael caniatâd i ymweld â nhw.

Ac mae Anffyddiaeth yn cytuno nad yw gorfodi Palesteiniaid i fyw mewn getos crebachlyd yn gynaliadwy.

Mae'n amhosibl dychmygu heddwch, meddai, heb i'r coloneiddio haerllug yma ddarfod ar unwaith.

Ac mae Mererid Mair yn ategu: heb fynd i ymrafael â gwir sefyllfa'r Palestiniaid a galw am ddiwedd i'r Apartheid sydd yn eu heffeithio yn eu tir eu hunain bydd yr hyn a welwn yn Gaza heddiw yn parhau am ddegawdau.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,
Ni fydd yna ddigwyddiad arbennig i goffáu canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae rhyfel yn cael sylw yn Golwg hefyd, sy'n nodi'r ffaith na fydd digwyddiad arbennig i goffáu canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ddydd Llun nesaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ond fel y dywed Dylan Iorwerth, mae cario ymlaen heb gofnodi'r digwyddiad yn swyddogol yn ffordd arall o wneud y pwynt.

Ac mae'n pwysleisio fod cofio'n bwysig.

Ein heddwch ni ydi rhyfel rhywun arall, ac mae effaith y Rhyfel Byd Cyntaf i'w deimlo o hyd mewn llefydd fel Gaza wrth i genhedloedd a charfanau crefyddol wingo yn erbyn ffiniau a osodwyd arnyn nhw'n fuan wedyn.

Ac mae achos sylfaenol y Rhyfel Mawr yn dal i fod yn amlwg hefyd - awydd rhai gwledydd ac ymerodraethau mawr i hawlio rhagor o rym ac atal rhai eraill rhag gwneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Crys
Disgrifiad o’r llun,
Nicky Samuel grŵp roc Crys yn cadw'r rhythm i fynd

Efallai na fydd coffa swyddogol i'r rhyfel ar y Maes yr wythnos nesaf, ond wrth edrych ymlaen at yr ŵyl, fe orffenna i bore 'ma ar nodyn ysgafnach.

Ymhlith nifer o uchafbwyntiau sy'n siŵr o ddifyrru'r genedl yn ystod yr Eisteddfod mae ymddangosiad hirddisgwyliedig y pendoncwyr o Resolfen, y grŵp roc Crys, sydd sy'n sôn ar Cymru Fyw am eu gig gyntaf i Cymdeithas yr Iaith ers deng mlynedd ar hugain, wrth iddyn nhw chwarae ar frig y lein-yp nos Lun yng nghlwb rygbi Ffwrnes.

Does ond un cwestiwn i'w ofyn felly, on'd oes - ydych chi'n barod am roc?