Jervis yn cipio medal rhif 27 i Gymru

Jervis
Image caption Fe wnaeth Jervis chwalu ei amser gorau i sicrhau'r efydd

Mae Cymru wedi cyrraedd eu targed uchelgeisiol o 27 medal yn Glasgow wrth i Daniel Jervis ennill medal efydd yn y 1500m dull rhydd yn y dŵr.

Jervis yw pencampwr ifanc Ewrop ac fe wnaeth y nofiwr 18 oed o Gastell-nedd yn wych wrth iddo ddod o nunlle i orffen yn drydydd tu ôl i Ryan Cochrane o Ganada a Mack Horton o Awstralia.

Hon oedd seithfed medal Cymru yn y pwll a'r pumed ar y dydd i Gymru, wrth iddyn nhw gyrraedd eu nod gyda phum diwrnod arall o gystadlu ar ôl.

Mae'n sicrwydd bod dwy fedal arall ar y ffordd yn y bocsio a bydd llygaid yr athletwyr nawr ar guro record cyfanswm medalau Tîm Cymru, sef 31 ym Manceinion yn 2002.