Gostyngiad o 67% yn nifer y rhai sydd wedi eu diswyddo'n annheg
- Cyhoeddwyd

Yn ôl ffigyrau chwarterol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r nifer o bobl sy'n hawlio eu bod wedi eu diswyddo'n annheg wedi gostwng 67% yng Nghymru, y gostyngiad mwyaf yn unrhyw ran o'r DU.
Daw'r ffigyrau ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf ers cyflwyno ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth, gan ddangos bod 225 o weithwyr yng Nghymru wedi mynd â'u cyflogwr i dribiwnlys gan honni eu bod wedi eu diswyddo'n annheg rhwng Ionawr a Mawrth 2014.
Yn yr un cyfnod yn 2013, roedd 679 o weithwyr wedi mynd â'u cyflogwr i dribiwnlys.
Mae'r TUC yn honni bod y cwymp yn dangos bod pobl yn "methu fforddio" cyfiawnder, gyda gweithwyr ar gyflogau isel yng Nghymru yn benodol yn cael eu heffeithio.
Ond yn ôl Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru, mae'r ffigyrau'n dangos nad ydi pobl bellach yn gwneud ceisiadau amheus neu anheilwng.
Pan gyflwynwyd y ffioedd dywedodd Is-Weinidog Cyfiawnder y DU ar y pryd, Jonathan Djanogly, ei bod hi'n annheg disgwyl i'r trethdalwr dalu biliau am dribiwnlysoedd, sy'n costio dros £84 miliwn y flwyddyn.
Mae ffigyrau Llywodraeth y DU yn dangos mai un ym mhob pedwar o weithwyr yn unig, a wnaeth gais am gymorth ariannol, dderbyniodd unrhyw fath o gymorth ers cyflwyno ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth ym mis Gorffennaf 2013.
Ffi o hyd at £1,200
Dan y system newydd, mae gweithwyr ar yr isafswm cyflog yn wynebu ffi o hyd at £1,200 os oes gan aelod o'r teulu gynilion o £3,000.
Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield : "Nid ydi'r cwymp anferth yn yr achosion o ddiswyddo annheg yn golygu bod cyflogwyr yng Nghymru wedi dod yn gleniach i'w gweithwyr yn y flwyddyn ddiwethaf.
"Yn hytrach mae dod ag achos yn erbyn cyflogwr wedi dod yn rhy ddrud i lawer o weithwyr, ac mae hynny'n annheg.
"Yn y gorffennol nid oedd yno ffioedd, ac roedd gweithwyr oedd yn teimlo eu bod wedi cael cam yn gallu dod a'u hachos i'r tribiwnlys, a byddai'n penderfynu o'u plaid neu beidio.
"Ond yr haf diwethaf, penderfynodd Llywodraeth y DU i gyfyngu cyfiawnder i'r rheiny sy'n gallu fforddio talu ffi."
Cyfraniad teg i'r system tribiwnlysoedd
Pan gyflwynwyd y ffioedd mynnodd Mr Djanogly, ei fod am i bobl dalu cyfraniad teg i'r system tribiwnlysoedd pan oedden nhw'n medru, ac y byddai hynny'n eu hannog i "chwilio am ffyrdd eraill" o ddatrys anghydfod.
"Nid yw'n deg i'r trethdalwr dalu'r bil cyfan o £84 miliwn y flwyddyn ar ran pobl sy'n chwyddo anghydfod yn y gweithle i dribiwnlys," meddai.
"Mae'n decach i bawb i geisio osgoi anghydfod hir sy'n niweidio busnesau a gweithwyr fel ei gilydd.
"Dyna pam yr ydym yn annog ffyrdd eraill fel cymodi."