Cydweithio: Codi miloedd dros y targed
- Cyhoeddwyd

Roedd y gwaith o godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ychydig yn hwyrach na'r arfer yn cychwyn, yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith, ond maen nhw wedi mwy na gwneud fyny am hynny.
Erbyn hyn, mae'r gronfa leol wedi codi dros £73,000 yn fwy na'r targed ariannol gwreiddiol o £320,000 - a'r rhan fwya' o'r diolch am hynny, medd Gethin Thomas, oherwydd y "cydweithio arbennig" ar draws y sir gyfan.
"O'n i'n awyddus o'r cychwyn cynta' bod ni'n sefydlu'r pwyllgorau apêl ar draws y sir," meddai Mr Thomas wrth Cymru Fyw.
"Rydw i a chwech is-gadeirydd arall wedi bod yn gyfrifol am ardaloedd gwahanol, ac mae 'na rhwng 40 a 50 o bwyllgorau apêl lleol wedi bod wrthi.
"Mae 'na fwrlwm wedi bod ar hyd a lled y sir.
"Y targed yn lleol oedd £320,000, ac erbyn mis Gorffennaf roeddan ni wedi cyrraedd £393,000 - £73,000 yn fwy na'r targed.
'Heriau'
"Mae 'na heriau wedi bod mewn ambell i ardal, wrth gwrs - pobl yn dweud 's'gennon ni ddim y bobl i allu gwneud hyn'- ond yn sydyn iawn, ma' nhw wedi goresgyn y problemau hynny, ac wedi ffeindio pobl a threfnu gweithgareddau.
"Ry'n ni wedi cael cefnogaeth arbennig gan y cynghorau tre', y cynghorau gwledig a'r cynghorau cymunedol hefyd."
Mae 'na rywfaint o feirniadaeth wedi bod, gyda rhai yn honni mai Eisteddfod Llanelli yw hi, yn hytrach na Sir Gaerfyrddin - cwynion am Gôr yr Eisteddfod, er enghraifft - ond gwrthod hynny'n chwyrn mae Gethin Thomas.
"Ro'n i'n awyddus i sicrhau bod y gweithgareddau'n mynd o gwmpas y sir fel bod ni ddim yn teimlo bod popeth yn cael ei leoli yn Llanelli.
"Roedd y cyhoeddi yng Nghaerfyrddin, y gymanfa ganu yn Rhydaman. Ac mae'r pwyllgor gwaith wedi symud o gwmpas yr ardaloedd. Ry'n ni wedi annog pawb i gymryd rhan.
'Perchnogaeth ar draws sir gyfan'
"Wrth gwrs, roedd rhaid cael un lleoliad - roedd yr Eisteddfod a'r Cynor Sir wedi penderfynu ar y lleoliad hwnnw cyn i'r pwyllgor gwaith gael ei sefydlu.
"Falle mai yn Llanelli fydd pobl yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ond mae 'na berchnogaeth ar draws y sir gyfan.
"Mae'r cydweithio rhwng pobl a gwahanol ardaloedd wedi bod yn gwbl nodweddiadol o'r hyn 'dwi wedi gobeithio anelu ato yn ystod fy nghyfnod fel cadeirydd."
Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan Eisteddfod.