Georgia Davies yn gosod record newydd yn y ras gefn 50m

Georgia Davies yn gosod record newydd yn y ras gefn 50m Image copyright Getty Images
Image caption Georgia Davies

Mae'r nofwraig Georgia Davies o Gymru wedi gosod record Gemau'r Gymanwlad newydd yn y rowndiau rhagbrofol ar gyfer ras nofio ar y cefn am 50 metr.

Mae'r eneth 23 mlwydd oed, a enillodd fedal arian yn rownd derfynol y 100m yn gynharach, wedi cwblhau'r ras 50m mewn 27.90 eiliad

Emily Seebohm o Awstralia ddaeth yn ail a Lauren Quigley o Loegr oedd y trydydd cyflymaf.

Gosododd Kathleen Dawson record newydd ar gyfer Yr Alban wrth iddi gwblhau'r ras mewn 28.56 eiliad.