Ail fedal i Elinor Barker yn y ras 25km

Elinor Barker
Image caption Dyma'r ail fedal i Barker yn y Gemau eleni

Mae'r Gymraes Elinor Barker wedi ennill medal arian yn y ras seiclo pwyntiau dros 25km yn felodrom Syr Chris Hoy.

Fe orffennodd Barker ar 37 o bwyntiau, yr un faint a Laura Trott, ond Trott aeth a'r fedal aur ar ol cyfri yn ol dros y ras i gyd.

Dyma ail fedal Barker o'r Gemau yn Glasgow, ar ol iddi ennill medal efydd yn y ras 10km.

Katie Archibald o'r Alban gafodd y fedal efydd yn y ras ddydd Sul.