Cymeradwyo cynllun uno ysgolion yng Nghwmbrân
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun i uno dwy ysgol uwchradd yn Nhorfaen er mwyn lleihau'r nifer o lefydd gwag wedi cael ei gymeradwyo.
Bydd Ysgol Gyfun Llantarnam ac Ysgol Uwchradd Fairwater yng Nghwmbrân yn cau er mwyn datblygu ysgol newydd ar safle Fairwater.
Bydd £6 miliwn yn cael ei wario ar ail-ddatblygu'r safle, ac mae disgwyl iddo agor erbyn mis Medi 2015.
Penderfynodd cynghorwyr mai safle Ysgol Fairwater oedd o'r maint gorau i'w ail-ddatblygu, a'i fod mewn lleoliad canolog i'r rhan fwyaf o ddisgyblion.
Cafodd y cynllun uno ei awgrymu gan fod niferoedd disgyblion wedi gostwng yn rheolaidd dros y pedair blynedd diwethaf, ac mae disgwyl iddyn nhw ostwng ymhellach erbyn 2018.
O ganlyniad i'r uno, bydd rhai disgyblion yng Nghwmbrân yn cael dewis mynd i Ysgol Croesyceiliog o 2015 ymlaen.