Adfywio adeilad a chreu 138 o swyddi yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bydd 138 o swyddi newydd yn cael eu creu wrth i gwmni electroneg addasu hen adeilad yn Abertawe.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bydd Trojan Electronics yn buddsoddi yn adeilad Doc y Brenin.
Mae disgwyl i'r gwaith datblygu gynnwys adeiladu swyddfeydd, cyfleusterau cynhyrchu ac iard gwasanaethu mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ddydd Llun.
Twf yn y cwmni yw'r rheswm am ddatblygu, sy'n "gam anferthol o bwysig" yn ôl eu cyfarwyddwr cyllid.
Mae Trojan yn arbennigo mewn tri phrif maes: trwsio ac adnewyddu cynnyrch electroneg, gwasanaeth e-fasnach a chynhyrchu byrddau cylched ar gyfer nifer o ddiwydiannau.
'Nifer arwyddocaol o swyddi'
Dywedodd y cwmni eu bod wedi tyfu yn rhy fawr i'w safle presennol ac y byddai symud "yn lleihau costau, ac yn gwneud y busnes yn fwy effeithiol ac yn rhoi mwy o le iddo dyfu".
Mae'r symud yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad o £2.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru, sy'n cynnwys grant er mwyn adnewyddu hen adeiladau.
Dywedodd cyfarwyddwr cyllid Trojan Electronics, Malcolm Rash: "Rydyn ni'n edrych ymlaen at ailuno'n holl weithgareddau a'n staff mewn un lle a thorchi llewys i gwrdd â'r galw cynyddol am ein gwasanaethau yn y DU ac Ewrop.
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y nawdd a'n galluogodd i gynnal y prosiect hwn ac edrychwn ymlaen yn awr at ehangu a chreu swyddi newydd yn yr ardal trwy fedru gweithio'n fwy effeithiol a gwneud mwy o elw."
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, y byddai'r "pecyn cymorth arloesol" yn rhoi lle i Trojan ehangu er mwyn "cwrdd â'r galw cynyddol a ragwelir am ei wasanaethau".
"Yn ogystal â chreu nifer arwyddocaol o swyddi newydd yn un o'n sectorau allweddol, mae'r buddsoddiad yn diogelu dyfodol y busnes. Rwy'n falch hefyd fod Gracelands yn adnewyddu adeilad diwydiannol pwysig i fod yn weithle, gan helpu i adfywio'r ardal a sicrhau bod gan Trojan Electronics ddyfodol hir dymor cynaliadwy yn y rhanbarth."
Mae Trojan yn gobeithio symud i'w safle newydd yn 2015.