Medal efydd i'r seiclwyr
- Cyhoeddwyd

Mae Matt Ellis ac Ieuan Williams wedi llwyddo i gael medal efydd i Tîm Cymru yn Glasgow.
Fe ddaethon nhw'n drydydd yn y gystadleuaeth seiclo tandem paralympaidd 1000m.
Yr Alban gafodd aur ac Awstralia oedd yn ail.
Hon yw'r ail fedal i Gymru ennill yn y gemau yn dilyn llwyddiant y tîm gymnasteg rythmig ar y diwrnod cyntaf.