Gwasanaeth i gofio'r Rhyfel Byd Cyntaf

Cadeirlan Llanelwy
Image caption Yn Llanelwy fydd y gwasanaeth goffa yn digwydd

Mae gwasanaeth i nodi 100 mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Llanelwy ddydd Sadwrn.

Yn ystod y gwasanaeth bydd Esgob Llanelwy yn rhoi pregeth, cyn Gweithred o Goffâd a chanu'r anthemau cenedlaethol.

Meddai'r Parchedig Dr Gregory K Cameron, Esgob Llanelwy, ei bod hi'n bwysig cofio aberth a chost y rhyfel.

"Fe gafodd y byd ei newid gan y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid yn unig hynny, ond fe gafodd effaith ar bob cymuned wrth iddyn nhw golli eu dynion ifanc.

"Mae'n amserol wrth i'r canmlwyddiant ddynesu, ein bod ni'n cofio'r aberth a chost eithriadol rhyfel."