Gwahardd nyrs arall o'r gwaith
- Published
Mae bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi gwahardd nyrs arall o'r gwaith, wrth i heddlu barhau i ymchwilio i honiadau bod cofnodion cleifion wedi eu ffugio.
Mae 15 nyrs wedi eu gwahardd i gyd - 14 yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac un yn Ysbyty Treforys.
O'r 15, mae tri o bobl wedi eu cyhuddo gan Heddlu'r De yn dilyn ymchwiliad i esgeulustod a ffugio cofnodion cleifion yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg:
"Mae'r bwrdd iechyd yn cynnal archwiliadau a phrofion gwirio ar hap ar gofnodion ymhob ysbyty yn ardal y bwrdd.
"Mae'r rhain yn parhau ac wedi bod yn cael eu cynnal yn dilyn y problemau gyda chofnodion, ddaeth i'r amlwg ddechrau 2013.
"Rydym ni'n parhau i helpu Heddlu'r De gyda'u hymchwiliadau."
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Gorffennaf 2014
- Published
- 29 Mai 2014
- Published
- 12 Mai 2014