Gwasanaeth newydd i geisio hybu sgiliau pobl ifanc Cymru
- Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf fe fydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd drwy gymryd rhan yn y rhaglen Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol (GDC) - neu'r National Citizen Service.
Mae'r cynllun eisoes yn bodoli yn Lloegr, a'r nod yw paratoi pobl ifanc ar gyfer y byd o waith drwy gynnal gweithgareddau sy'n annog gweithio fel tîm a phrosiectau cymunedol.
Nawr mae llywodraethau San Steffan a Chymru wedi cyhoeddi y bydd cynllun peilot yn dechrau yng Nghymru yn yr hydref.
Mae'r cynllun yn rhan o agenda 'Y Gymdeithas Fawr' - gweledigaeth Prif Weinidog y DU, David Cameron.
Mae y rhaglen GDC yn ceisio cyrraedd tri nod, sef:
- Cymdeithas fwy cydlynol drwy sicrhau cymysgedd o bobl o gefndiroedd gwahanol;
- Cymdeithas fwy cyfrifol drwy gefnogi pobl ifanc wrth iddynt ddatblygu'n oedolion;
- Sicrhau fod pobl yn fwy ymwybodol o anghenion cymdeithas, drwy alluogi pobl ifanc i weithio gyda'i gilydd i greu prosiectau fydd o fudd yn eu cymunedau.
Bydd y cynllun yn caniatáu i ddisgyblion sydd newydd gwblhau eu harholiadau TGAU i dreulio pythefnos o'u cartref yn cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp fel mynydda, canŵio ac abseilio.
Prosiectau lleol
Yna bydd disgwyl i'r disgyblion dreulio wythnos arall yn llunio prosiect cymunedol a hynny drwy ymgynghori â phobl leol.
Ar ôl hynny bydd yn rhaid i'r ieuenctid dreulio o leiaf 30 awr dros gyfnod wythnosnau yn cwblhau'r prosiectau.
Mae'n rhaid i fyfyrwyr yn Lloegr dalu rhwng £50 a £95 i gymryd rhan yng nghynllun GDC - ond bydd o ar gael yn rhad ac am ddim yng Nghymru.
Yng Nghymru mae nifer o bobl ifanc eisoes yn gwneud gweithgareddau tebyg drwy gynllun y Fagloriaeth Gymreig, cymhwyster sy'n cynnwys gwneud gwaith yn y gymuned.
Fe fydd nifer o ofynion y cynllun GDC yn gallu cael eu defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer y Fagloriaeth, tystiolaeth o ehangu sgiliau.
Mae'n debyg y bydd hyd at 250 o bobl ifanc yn cymryd rhan y cynllun peilot yn yr Hydref.
Dywed llywodraeth San Steffan eu bod wedi neilltuo £300,000 ar gyfer y cynllun.
Ar ôl y cyfnod prawf bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu a ydynt am barhau â'r cynllun.
Yn Lloegr, mae 80,000 o bobl ifanc eisoes wedi cymryd rhan yn y cyllun.