Sgiliau cyfrifiadur: Ymgais i ysbrydoli

techniquest Image copyright Nick Treharne
Image caption Roedd y chwaraewr rygbi Rhys Priestland yno i helpu'r ymgyrch wyddoniaeth

Mae canolfan wyddoniaeth Techniquest yng Nghaerdydd wedi dechrau ymgyrch i wella sgiliau cyfrifiadur a gwyddoniaeth gweithlu'r dyfodol.

Bydd rhaglen o weithgareddau gan y ganolfan yn ceisio rhoi hwb i'r diddordeb mewn cyfathrebu digidol a chyfrifiaduraeth, ac ysgogi mwy o ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes technoleg gwybodaeth.

Dywedodd Anita Shaw, o ganolfan Techniquest: "Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn datblygu sgiliau technoleg uwch, gan gynnwys datblygu rhaglenni cyfrifiadur, er mwyn i Gymru gystadlu yn rhyngwladol."

Ymhlith y gweithgareddau, bydd sioe ac arddangosfa arbennig sy'n dangos sut mae sgiliau cyfrifiadur yn cael eu defnyddio mewn bywyd bob dydd.

Ysbrydoli merched

Dywedodd Ann Beynon, o'r noddwyr BT: "Mae'n hanfodol ysbrydoli plant ifanc, a merched yn enwedig, er mwyn sicrhau llewyrch economaidd Cymru yn y dyfodol."

"Os ydym i ddenu cwmnïau i fuddsoddi yng Nghymru mae'n rhaid i ni godi ein lefel sgiliau mewn rhai meysydd , yn enwedig cyfrifiaduraeth."

Mae'r cynllun yn rhan o ymgyrch ehangach gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod rhagor o ferched yn cael eu denu tuag at yrfaoedd mewn gwyddoniaeth a pheirianneg.

Bydd yr arddangosfa a'r sioe yn Techniquest yn cael eu haddasu er mwyn llunio deunydd dwyieithog ar gyfer astudio gwyddoniaeth mewn ysgolion uwchradd ymhob rhan o Gymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.