Llywodraeth yn datgelu cynllun trysorlys Cymreig

Carwyn Jones
Image caption Dyma'r rhaglen ddeddfwriaethol lawn olaf cyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2016

Mae cynlluniau i sefydlu trysorlys Cymreig, sef corff corfforaethol newydd yn gweithredu ar wahân i Weinidogion Cymru, wedi cael eu cynnwys yn rhaglen ddeddfu Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dyma'r rhaglen ddeddfwriaethol lawn olaf cyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2016.

Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi brynhawn Mawrth gan y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Bydd y trysorlys Cymreig yn gweinyddu'r pwerau trethu a benthyca newydd sydd yn y broses o gael eu datganoli. Mae'r trethi yn cynnwys rheolaeth dros dreth stamp.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, "bydd hyn yn sicrhau bod trethi'n cael eu casglu a'u rheoli'n effeithlon ac effeithiol ac yn gosod gweithdrefnau i amddiffyn trethdalwyr a'u hawliau o ran talu'r trethi hyn yn llawn a phriodol yng Nghymru".

Symleiddio cynllunio

Mae'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt wedi dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn debygol o ddechrau casglu trethi cyn 2018.

Mae'r rhaglen ddeddfwriaethol hefyd yn cynnwys manylion Mesur Cynllunio i "foderneiddio a symleiddio yn hytrach nag atal datblygu, a fydd yn ei dro yn sicrhau'r cartrefi, y swyddi a'r seilwaith y mae eu hangen ar Gymru".

Yn ogystal, ceir mesur llywodraeth leol i ganiatáu i gynghorau i uno yn wirfoddol.

Cafodd ymgynghoriad ei lansio gan y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Lesley Griffiths ar hyn yr wythnos diwethaf.

Ceir hefyd fesur Iechyd y Cyhoedd sy'n cynnwys cynigion i leihau'r defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeëdig a chyflwyno Isafswm Pris fesul Uned o 50c yr uned ar gyfer alcohol, a allai bellach fod yn gyfraith.

'Cam cyffrous'

Dywedodd y Prif Weinidog: "Drwy'r rhaglen ddeddfwriaethol hon, byddwn hefyd yn gweithredu ar ddau faes diwygio pwysig, gan osod y mesurau y mae eu hangen ar gyfer uno awdurdodau lleol a symud i gyfnod newydd o ddatganoli drwy baratoi ar gyfer ein pwerau newydd i godi trethi.

"Mae hwn yn gam cyffrous i Gymru. Rydym wedi gweld sawl moment bwysig ers cael y pwerau i basio deddfau yn 2011, sy'n dangos yr hyn y mae modd ei gyflawni drwy ddeddfau sy'n cael eu creu yng Nghymru ac i Gymru.

"Rwy'n credu y bydd y cynlluniau rwyf wedi'u hamlinellu heddiw yn parhau â'r momentwm hwn ac yn gwneud Cymru'n lle gwell fyth i weithio a byw ynddo."

Bwriad y mesurau eraill a amlinellwyd ddydd Mawrth yw:

  • creu fframwaith newydd ar gyfer asesu plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol;
  • amddiffyn adeiladau rhestredig a henebion Cymru yn well;
  • gwella rhentu preifat, gan gynnwys ystyried ei gwneud yn ofynnol i bob landlord sicrhau bod yr eiddo yn addas i bobl fyw ynddo;
  • sicrhau fframwaith deddfwriaethol i reoli'n cyfoeth naturiol "mewn ffordd syml a chydlynus";
  • pennu'r drefn reoleiddio ac arolygu "y mae ei hangen i amddiffyn a hyrwyddo lles y bobl yng Nghymru sydd fwyaf angen gofal a chymorth".

Ymhlith y deddfau sydd wedi eu pasio hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru y mae un yn cyflwyno system o ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un yn safoni cymhwyster ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac yn un sy'n caniatáu byrddau iechyd i gynllunio eu cyllid dros gyfnod o dair blynedd.

Straeon perthnasol