Galw gwasanaethau brys i ddamwain gleider yn Llangollen
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru yn dweud bod gleider wedi taro i mewn i goeden yn Llangollen.
Cafodd criwiau o Langollen, Wrecsam a'r Waun eu galw i'r digwyddiad yn maes awyr y dref.
Dywedodd criwiau bod y dyn wedi llwyddo i ddod i lawr o'r goeden ar ben ei hun, a bod meddygon wedi cynnal profion.
Nid yw'r dyn wedi mynd i'r ysbyty.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 19:40 ond maen nhw wedi gadael y safle erbyn hyn.