11,000 o gleifion llygaid yn aros dros 36 wythnos

Prawf llygaid

Mae'r nifer o gleifion llygaid sy'n gorfod aros dros 36 wythnos am apwyntiad ysbyty yng Nghymru wedi dyblu. Yn ôl ystadegau newydd mae'r rhestrau aros wedi gwaethygu yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Erbyn hyn mae'r nifer sy'n aros dros naw mis wedi codi o tua 4,500 o bobl i bron i 11,000.

Ond, mae'r nifer o bobl sy'n cael eu cyfeirio at glinigau ysbytai wedi lleihau ers i fwy o bobl gael eu trin gan optegwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn newid yr holl system o ofal llygaid sy'n golygu na fydd pob claf yn gweld ymgynghorydd yn y dyfodol.

'Clinigau dan straen'

Yn ôl yr offthalmolegydd ymgynghorol, Chris Blyth, mae clinigau gofal llygaid mewn ysbytai dan straen cynyddol.

"Dwi'n meddwl bod angen cofio bod tua 1 ymhob 10 o holl apwyntiadau allanol y GIG mewn adran gofal llygaid ac mae offthalmolegwyr yn gwneud y llawdriniaeth fwyaf cyffredin yn y GIG - roedd 16,000 o lawdriniaethau cataract yng Nghymru'r llynedd.

"Yn 2007 roedd yna driniaeth newydd ar gyfer dirywiad macwlaidd. Felly cyn Mawrth 2007 roedd bron dim cleifion yn cael triniaeth ar gyfer dirywiad brith, nawr mae tua 4,000 o gleifion yng Nghymru sydd yn gorfod dod i'r clinig bob pedwar i chwe wythnos."

Image caption Mae Pam Watkins angen triniaeth rheolaidd i geisio achub ei golwg

Cafodd Pam Watkins ddiagnosis o ddirywiad macwlaidd y flwyddyn ddiwethaf ac mae hi'n mynd i'w ysbyty lleol am chwistrelliadau cyson i mewn i'w llygaid i achub ei golwg.

Dywedodd ei bod yn aml yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiadau o fewn yr amser sydd ei angen.

"Weithiau rydw i'n mynd chwech neu wyth wythnos heb chwistrelliad. Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n gwneud eu gorau ond mae'n bryderus."

'Targed yn niweidiol'

Yn ôl cyfarwyddwr RNIB Cymru, mae pwysau i gyrraedd targedau amseroedd aros ysbytai yn gallu effeithio ar flaenoriaethau clinigol.

"Y broblem yw sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y cleifion iawn ar yr amser iawn fel bod cleifion yn cael apwyntiadau o fewn yr argymhellion clinigol," meddai Ceri Jackson.

"Mae'r targed rhwng cyfeirio a thriniaeth yn gallu bod yn niweidiol i glinigwyr sy'n ceisio trin cleifion er mwyn achub eu golwg.

"Mae 'na bwysau i weld y claf newydd nid yr un sy'n dod yn ôl."

Ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei gynllun gofal iechyd llygaid cyntaf, sy'n cynnwys sawl newid dros y bum mlynedd nesaf.

Dywedodd prif ymgynghorydd optegol y llywodraeth, Dr Barbara Ryan: "Yn y cynllun rydyn ni'n amlinellu newid cyfan yn y ffordd rydyn ni'n darparu gofal llygaid.

"Ni fydd pawb sydd â phroblem llygaid yn gweld ymgynghorydd offthalomegol. Mae'n bosib y cawn nhw eu gweld mewn Canolfan Ddiagnosis ac os ydyn nhw'n risg isel ac mae eu cyflwr yn sefydlog gall rhywun heblaw meddyg wneud y profion.

"Ond bydd meddyg yn monitro hynny i wneud yn siŵr bod y driniaeth yn addas."

Gallwch glywed mwy am y stori ar Eye on Wales, BBC Radio Wales, am 13:30 ddydd Sul.