Pryder am wasanaeth diogelu plant
- Cyhoeddwyd

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, mae pryder cynyddol am wasanaeth i ddiogelu plant sy'n agored i niwed neu yn y system ofal yng Nghymru.
Dywed Keith Towler bod plant a phobl ifanc yn dal i gael eu hamddifadu o'r hawl i gael 'llais' proffesiynol annibynnol, a elwir yn eiriolwr, 14 mlynedd ar ôl i ymchwiliad Tribiwnlys Waterhouse i gam-drin plant mewn cartrefi gofal argymell y dylai'r gwasanaeth fod ar gael i bob plentyn sydd â chwyn.
Daw sylwadau'r Comisiynydd wrth iddo gyhoeddi adroddiad, 'Lleisiau Coll: yr Hawl i gael eu Clywed', ac mae'n amlygu pryderon a rhwystredigaeth gynyddol Keith Towler.
Er i'r comisiynydd ganmol ymrwymiad Gweinidogion i eiriolaeth - fel a welir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - mae Mr Towler yn tynnu sylw at yr hyn sy'n ymddangos fel "diffyg dyhead a phenderfyniad o fewn Llywodraeth Cymru i wthio newid ar lefel briodol, fyddai'n gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc heddiw".
'Rhywfaint o gynnydd'
Ar hyn o bryd, mae ymrwymiad statudol ar bob awdurdod lleol i ddarparu 'llais' proffesiynol annibynnol i bob plentyn a pherson ifanc sy'n derbyn gofal, sy'n gadael gofal neu sydd mewn angen ac sy'n dymuno cymryd rhan neu wneud sylwadau am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am eu bywydau.
Dylid darparu eiriolwr hefyd os yw'r plentyn neu'r person ifanc yn dymuno gwneud cwyn.
Dywedodd Keith Towler, y Comisiynydd Plant: "Ni allaf wadu bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ond bu'n anghyson ac yn araf.
"Cafwyd gormod o esgusodion ynglŷn â pham nad yw newid wedi digwydd yn fwy cyflym ac yn y cyfamser mae sefyllfa plant a phobl ifanc wedi aros yr un fath ar y cyfan."
Ychwanegodd bod "eiriolaeth yn wasanaeth diogelu sylfaenol ac ni allwn dderbyn y sefyllfa gyfredol, lle mae gallu ein plant a phobl ifanc mwyaf bregus i fanteisio ar eiriolaeth, ynghyd ag ansawdd y gwasanaeth hwnnw, yn loteri côd post.
"Mae amlygrwydd sgandalau cam-drin hanesyddol ar hyn o bryd yn dangos pa mor bwysig yw hi i ni sicrhau ar unwaith bod y gwasanaeth eiriolaeth i blant a phobl ifanc yn gweithio'n iawn heddiw.
"Mae eiriolaeth yn ein galluogi i greu diwylliant lle'r ydym ni'n gwrando ar blant a phobl ifanc, diwylliant lle gallwn ni ddiogelu ein plant yn well. Yn gryno, mae eiriolaeth yn diogelu plant a phobl ifanc."
63%
Mae dwy flynedd ers i'r Comisiynydd gyhoeddi "Lleisiau Coll", ei adolygiad o eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, rhai sy'n gadael gofal a phlant mewn angen yng Nghymru.
Nawr, mae ei adroddiad diweddaraf ar gynnydd y gwaith wedi canfod nad oedd 63% o'r 384 o blant mewn gofal a holwyd yn gwybod pwy oedd eu darparwr eiriolaeth.
Ychydig o dystiolaeth a gafwyd hefyd bod awdurdodau lleol yn mynd ati'n weithredol i edrych ar faint o'r bobl ifanc sy'n ymgymryd â gwasanaethau eiriolaeth mewn perthynas â'r nifer sydd mewn gofal.
Mae'r adroddiad yn cynnwys pum argymhelliad pellach, gan gynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu model cenedlaethol o gomisiynu gwasanaethau eiriolaeth broffesiynol annibynnol.
Yn ogystal, mae argymhelliad y dylai awdurdodau lleol wneud cynnig gweithredol o eiriolaeth i bob plentyn a pherson ifanc sy'n mynd i'r system gofal.
Straeon perthnasol
- 8 Hydref 2013
- 4 Tachwedd 2012
- 22 Mawrth 2012