Symud Williams i ysbyty arbenigol
- Cyhoeddwyd

Mae Owen Williams wedi cael ei drosglwyddo i ysbyty arbenigol i barhau gyda'i driniaeth.
Fe gafodd Williams, 22 ei anafu yng nghystadleuaeth y World Club 10s yn Singapore fis diwethaf.
Dioddefodd anaf difrifol i'w wddf a'i asgwrn cefn.
Fe gafodd ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac mae nawr wedi cael ei symud i'r uned arbenigol ar gyfer anafiadau i'r cefn yn Ysbyty Rookwood yn Llandaf.
Mae nifer o chwaraewyr a chefnogwyr wedi bod yn rhannu eu dymuniadau da tuag at Williams ar wefannau cymdeithasol.
Dywedodd ei glwb mewn datganiad: "Hoffai'r Gleision a theulu Williams ddiolch i staff yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd sydd wedi bod yn gofalu am Williams ers iddo ddychwelyd o Singapore.
"Mae'r negeseuon o gefnogaeth gan y gymuned rygbi a'r byd ehangach yn parhau i fod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i Owen, ei deulu a'i ffrindiau ar yr amser yma."
Mae'r chwaraewr ifanc wedi ennill pedwar cap i Gymru a sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf yn y gêm yn erbyn Tonga fis Tachwedd.
Straeon perthnasol
- 26 Mehefin 2014
- 25 Mehefin 2014
- 24 Mehefin 2014