'Gwlad y Gân': Estonia a Chymru

Rydyn ni ynghanol tymor y gwyliau cerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd ond yn ystod y dyddiau diwethaf mae'r newyddiadurwraig Nia Medi wedi profi diwylliant gwahanol yn un o wyliau mwyaf Estonia. Bu'n son wrth BBC Cymru Fyw am ei phrofiadau:

Image copyright Nia Medi

Llai na Chymru

"Do'n i erioed wedi meddwl am Estonia fel gwlad ar gyfer gwyliau, ond ar ôl treulio wythnos yna ar daith y wasg gyda'r Bwrdd Twristiaeth a'r Llysgenhadaeth, fyddai'n sicr am ddychwelyd.

Mae'n wlad sy'n llawn prydferthwch naturiol, hanes lliwgar a thraddodiadau diwyllianol cryf. Gyda phoblogaeth o bron i ddwy filiwn yn llai na Chymru, mae'n wlad fach ond yn un sy'n llawn mor angerddol am ei gwreiddiau, iaith, hanes a diwylliant.

Image copyright Nia Medi

Annibyniaeth

Un o'r traddodiadau pwysicaf sydd gan y wlad yw'r wŷl gerddoriaeth sy'n cael ei chynnal pob 5 mlynedd yn y brif ddinas Tallinn. Gyda 45,000 o gantorion a chorau yn gorymdeithio a pherfformio mewn gwisgoedd traddodiadol yn yr wŷl, mae 'na reswm pwysig iawn pam fod y lleisiau yma i gyd yn uno mewn dathliad sydd wedi digwydd ers bron i gant a phedwar deg o flynyddoedd erbyn hyn.

Mae'r orymdaith a'r wŷl ei hun yn atgof o frwydr Estonia am annibyniaeth o'r Undeb Sofietaidd - annibyniaeth a ddaeth i'r wlad ym 1991 a symudiad a ddaeth i'w adnabod fel y 'chwyldro cerddorol'.

Gorthrwm

Image copyright Nia Medi

O dan reolaeth yr Undeb Sofietaidd roedd protestio yn anghyfreithlon ac felly fe wnaeth pobl Estonia ganu dros heddwch ac annibyniaeth a hynny yng ngwyneb yr heddlu arfog. Doedden nhw ddim yn cael canu unrhyw ganeuon fydde'n cynnwys geiriau fel 'mamwlad' nac arddangos baner Estonia. Ond parhau i ganu wnaeth pobl Estonia tan i annibyniaeth ddod ac erbyn hyn, fel Cymru, mae Estonia yn cael ei hadnabod fel 'Gwlad y Gân'.

Roedd cerdded mewn i safle'r wŷl yn debyg iawn i gerdded mewn i faes y 'Steddfod neu Eisteddfod Llangollen, ond ar raddfa lot yn fwy a heb yr elfen gystadleuol.

Cadw'r iaith yn fyw

Am wlad fach sydd wedi cael ei gormesu mwy nag unwaith dros y ddwy ganrif ddiwethaf, mae'n anhygoel bod Estonia wedi ennill ac ad-ennill annibyniaeth a chadw'r iaith yn fyw. Gyda phoblogaeth o 1.5 miliwn, mae miliwn ohonyn nhw yn siarad Estoneg i gymharu gyda Chymru sydd â phoblogaeth o 3 miliwn ac ond 500,000 yn siarad Cymraeg.

Dyw hi ddim yn wlad grefyddol chwaith ac o siarad â phobl ifanc yr ardal roedd nifer ohonyn nhw yn meddwl bod hyn yn un o gryfderau'r wlad am nad yw crefydd yn chwarae rhan mewn dadleuon gwleidyddol a chreu polisïau.

Image copyright Nia Medi

Hefyd, y duedd yng Nghymru yw bod pobl ifanc yn symud i'r dinasoedd i chwilio am waith. Mae'r sefyllfa i'r gwrthwyneb yn Estonia, ble ma' miloedd o bobl ifanc nawr yn symud nôl i'r wlad am fod y Llywodraeth wedi sicrhau bod gan 70% o'r ardaloedd gwledig wasanaeth di-wifr rhad ac am ddim.

Technoleg flaengar

Maen nhw'n gallu byw yn y wlad a bod mewn cysylltiad cyson a'i swyddfeydd yn y ddinas. Yn wir, tra'n cerdded drwy fforest Parc Cenedlaethol Laheema, ro'n i hefyd yn gallu checio'n e-byst a chyfathrebu gyda fy nghyflogwyr i nôl adre. Mewn nifer o ardaloedd gwledig ar draws Cymru, byddai'n amhosib i mi hyd yn oed wneud galwad ffôn symudol oherwydd diffyg signal.

Image copyright Nia Medi

Ar ol treulio 6 diwrnod yn teithio o amgylch Estonia, daeth hi'n amlwg y gallwn ni fel cenedl ddysgu lot wrth y wlad fach yma a braf bydde gweld cysylltiadau yn datblygu mewn blynyddoedd i ddod."

________________________________________