Goruchaf Lys yn dyfarnu o blaid y Cynulliad

Amaeth
Image caption Cafodd y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ei ddirwyn i ben y llynedd

Mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu bod y Cynulliad yn gymwys i basio bil yn ymwneud â'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol.

Daeth i'r casgliad fod gan y Cynulliad y pŵer i osod isafswm cyflog ac amodau gwaith i weithwyr amaethyddol.

Hwn yw'r ail dro i'r Goruchaf Lys ddyfarnu o blaid y Cynulliad, wedi iddynt ddod i'r casgliad fod gan y ddeddfwriaeth y pŵer i basio deddf yn newid y ffordd y mae cynghorau yn gwneud deddfau lleol.

Cefndir

Ym mis Chwefror, mewn gwrandawiad a barodd am ddau ddiwrnod, clywodd y llys fanylion am ffrae am gyflogau ffermwyr yng Nghymru.

Cafodd deddf ei phasio gan Aelodau Cynulliad y llynedd i osod isafswm cyflog ac amodau gwaith i weithwyr amaethyddol.

Ond cafodd ei wrthod gan y Twrnai Cyffredinol, Dominic Grieve, oedd yn dweud nad oedd gan y Cynulliad y pŵer i wneud hynny.

Cafodd y mesur ei basio gan ACau wedi i'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol - oedd yn gosod lefelau tâl yng Nghymru a Lloegr - ddirwyn i ben.

Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu byrddau eu hunain.

Roedd Llywodraeth Cymru yn erbyn dileu'r bwrdd ond dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd yn fater oedd wedi ei ddatganoli.

Gwrthwynebiad

Ym mis Awst ysgrifennodd y Twrnai Cyffredinol i'r Cynulliad yn mynegi ei wrthwynebiad.

"Nid ydw i'n credu bod y mesur o fewn cymhwysedd y Cynulliad ac felly rydw i wedi penderfynu ei gyfeirio at y Goruchaf Lys," meddai.

"Rydw i'n gobeithio y bydd y cyfeirio yma yn rhoi eglurder am y cwestiynau pwysig sydd yna am gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol."

Mewn ymateb fe wnaeth Llywodraeth Cymru amddiffyn y ddeddf, gan ddweud y byddai'n "annog ymgeiswyr newydd yn y diwydiant amaethyddol ac yn helpu'r sector i wella a chadw sgiliau pwysig er mwyn sicrhau ffyniant yn y dyfodol".

Tra oedd Undeb Amaethwyr Cymru yn honni bod y bwrdd yn "angenrheidiol" roedd yr NFU yn dweud ei fod "wedi heneiddio ac yn ddiangen".

'Angen setliad datganoli newydd'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud bod yr achos yn profi bod angen newid y setliad datganoli i'w wneud yn gliriach pa bwerau sy'n berchen i ba ddeddfwriaeth.

"Mae hwn yn ddyfarniad pwysig gan y Goruchaf Lys sy'n mynd peth ffordd i egluro cymhlethdod y setliad datganoli presennol," meddai.

"Hwn yw'r ail benderfyniad unfryd o'n plaid a chyfiawnhad clir o'r ffordd mae'n pwerau deddfu cymharol newydd yn cael eu dehongli gan Lywodraeth Cymru...

"Ond allwn ni ddim cael bil ar ôl bil yn cael eu pasio gan ein Cynulliad democrataidd, yna'n cael eu cyfeirio i'r Goruchaf Lys gyda'r holl amser, cost ac ansicrwydd sy'n dod gyda hynny.

"Fe wnaeth y Comisiwn Silk argymhell ein bod yn symud o'r system anfoddhaol bresennol o bwerau yn cael eu rhoi [i'r Cynulliad] i drefniant lle mae rhai pwerau'n cael eu cadw [gan San Steffan], fel sy'n digwydd yn yr Alban."

Straeon perthnasol