Setliad datganoli yn 'cyfyngu' Cymru medd Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd

Mae'r setliad datganoli i Gymru yn ei gwneud hi'n anoddach gwella gwasanaethau fel iechyd ac addysg, yn ôl y Prif Weinidog.
Gan amlinellu cynlluniau i ad-drefnu llywodraeth leol, dywedodd Carwyn Jones bod y setliad datganoli yn "ochelgar a chymhleth".
Mae'r comisiwn trawsbleidiol, Comisiwn Williams, wedi awgrymu torri nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i rhwng 10 a 12.
Mae'r blaid Lafur yn ymgynghori ar fodel newydd yn cynnwys 12 cyngor, ac mae disgwyl iddyn nhw adrodd yn ôl ym mis Medi.
'Gochelgar a chymhleth'
Wrth ymateb ar ran y llywodraeth i'r adroddiad, dywedodd Carwyn Jones: "Rydyn ni wedi cael ein cyfyngu gan setliad datganoli gochelgar a chymhleth, fframwaith ariannu annheg, a strwythurau sector gyhoeddus gafodd eu dylunio cyn datganoli ac sydd wedi heneiddio.
"Nid yw'r diffygion yma yn bwyntiau technegol. Maen nhw'n cyfyngu ar ein gallu i wella gwasanaethau, ac i gefnogi'r economi a budd pobl yng Nghymru."
Yn ddiweddarach, ychwanegodd: "Bydd uno cynghorau yn amddiffyn ac yn gwella gwasanaethau lleol.
"Byddan nhw'n helpu i wella capasiti sefydliadau i ymateb i'r heriau cynyddol y maen nhw'n eu hwynebu.
"Mae gormod o ymyrraeth wedi bod yn y blynyddoedd diweddar, lle rydyn ni wedi gorfod gweithredu er mwyn sicrhau gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn rhai awdurdodau llai. Ni all hyn barhau."
'Angen ad-drefnu llawn'
Mae'r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi papur gwyn yn galluogi i gynghorau uno yn wirfoddol os ydyn nhw'n mynnu.
Dywedodd AC Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas: "Mae wedi dod yn glir nad yw'r status quo yn opsiwn bellach.
"Ond byddai uno gwirfoddol yn ddull cam wrth gam, yn hytrach na'r ad-drefniad llawn o wasanaethau cyhoeddus sydd ei angen.
"Mae Plaid Cymru wedi dweud y bydd polisi cynhwysfawr yn ein maniffesto 2016 ar sut y gall gwasanaethau gwahanol gael eu cynnal orau, a bydd hwn yn cynnwys faint o awdurdodau lleol sydd gyda ni.
"Rydyn ni'n croesawu cydnabyddiad y llywodraeth y byddai'r prif ad-drefnu yn digwydd ar ôl 2016, ond rydyn ni'n parhau i boeni am unrhyw gais i frysio newidiadau cyn yr amser yna."