Llangollen: Gŵyl yn fwy sefydlog

Rick Parfitt and Francis Rossi of Status Quo on stage in Perth, Australia, in 2010 Image copyright Getty Images
Image caption Status Quo sy'n dod â'r wyl i ben ddydd Sul.

Dywed trefnwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eu bod yn credu fod yr ŵyl yn wynebu dyfodol ariannol mwy sefydlog.

Ymhlith yr atyniadau'r wythnos hon mae Bryn Terfel, Status Quo, y canwr jazz Caro Emerald a theyrnged i Nelson Mandela.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio denu hyd at 40,000 i'r ŵyl yn sir Ddinbych.

Fe fydd 2,000 o berfformwyr o 48 o wledydd yn cystadlu yn yr ŵyl sy'n dechrau ddydd Mawrth.

Dywed y prif weithredwr David Neal fod y penderfyniad i ddenu atristiaid amlwg wedi cael dylanwad positif ar gyllid yr ŵyl, ar ôl nifer o flynyddoedd anodd.

Dywedodd fod tocynnau ar gyfer y prif gyngherddau yn gwerthu'n dda.

Ychwanegodd ei bod hi'n edrych yn debyg y byddai'r ŵyl yn osgoi dyledion eleni.

"Eleni rydym yn credu y byddwn mewn sefyllfa ariannol sefydlog yn hytrach na sefyllfa ariannol hynod dda," meddai Mr Neal, sydd wedi bod yn brif weithredwr ers blwyddyn, bellach.

"Mae'n anodd dweud yn bendant tan diwedd yr ŵyl... Ond ar y funud rydym yn dawel hyderus fod y gwaethaf o'r problemau ariannol yn y gorffennol.

Mae'r ŵyl wedi ei chynnal yn Llangollen bob blwyddyn ers 1947.

Image caption Mae'r ŵyl yn denu cystadleuwyr o bob rhan o'r byd
Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Karl Jenkins fydd yn arwain perfformaid Adiemus Colores

Ymhlith uchafbwyntiau'r cyngherddau mae cyngerdd Bryn Terfel a pherfformiad cyntaf Adiemus Colores, gan y cyfansoddwr Karl Jenkin

Hefydd yn Llangollen bydd perfformiad cyntaf Spirit of Hope, teyrnged i'r diweddar Nelson Mandela, gafodd ei ysgrifennu gan y cyfansoddwr Paul Mealor a'r bardd Grahame Davies. s.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.