Ashley Brace allan o'r gemau

Ashley Brace

Fydd y focswraig, Ashley Brace ddim yn cael cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow mewn pythefnos.

Fe wrthododd AIBA gymeradwyo cais y ferch 23 oed o Lyn Ebwy, oherwydd ei bod hi wedi cystadlu ym Mhencampwriaeth Byd Boscio Cic y llynedd.

Oherwydd hyn, meddai'r sefydliad, dyw hi ddim yn gymwys i gynrychioli Tîm Cymru.

Fe ddywedodd Brian Davies, pennaeth y tîm:

"Gyda siom, 'dy ni'n cadarnhau na fydd Ashley Brace yn cystadlu dros Dim Cymru yn Glasgow," gan ychwanegu eu bod nhw wedi cysylltu ag AIBA i drafod y penderfyniad, ac yn "derbyn y dyfarniad."

Brace yw'r trydydd aelod o'r tîm i orfod tynnu allan o'r gemau, ar ôl Becky James a Non Stanford.

Straeon perthnasol