Hinsawdd a swyddi: Pryderon pobl Cymru i'r dyfodol

Llifogydd

Newid hinsawdd, swyddi a sgiliau, a'r amgylchfyd ydy'r prif faterion sydd yn allweddol ar gyfer lles pobl yn y dyfodol yn ôl arolwg.

Cafodd yr arolwg ei wneud fel rhan o ymgyrch 'Y Gymru a Garem' gan Lywodraeth Cymru. Mae'r llywodraeth wedi bod yn gofyn i gannoedd o bobl sut Gymru fydden nhw yn hoffi gweld yn 2050.

28.2% ddywedodd bod y Gymraeg a diwylliant yn bwysig wrth ateb y cwestiwn a 24.7% ddywedodd trosedd a thrais.

Roedd bron i 70% o'r rhai a holwyd yn dweud mai newid hinsawdd, swyddi a'r amgylchfyd naturiol oedd y materion allweddol ar gyfer lles cenedlaethau mewn blynyddoedd i ddod.

Mae'r llywodraeth wedi bod yn gwneud y gwaith ymchwil wrth iddyn nhw baratoi i gyhoeddi'r Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Ystyried bob dim am Gymru

Y bwriad ydy ceisio gwneud Cymru y wlad orau yn y byd i fyw, dysgu, a gweithio ynddi erbyn 2050.

Dywedodd Dan Jones o Cynnal Cymru, sef mudiad sydd yn rhan o'r drafodaeth:

"Fydd e yn gorfodi cynghorau lleol i ymddwyn yn lot mwy cynaliadwy a ddim jest oherwydd y tywydd, yr hinsawdd ac yn y blaen. Ond hefyd diwylliant, yn ieithyddol, bob dim am byti Cymru."

Roedd iechyd yn fater pwysig gyda 81% yn dweud eu bod nhw eisiau cenedl iachach yn y dyfodol. Gwneud yn siwr bod cymunedau yn ddiogel ac yn cydlynu oedd un o'r blaenoriaethau eraill i bobl.

Y disgwyl yw y bydd y ddeddf yn gorfodi cyrff cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd a meddwl am effeithiau hir dymor eu penderfyniadau.

Mae cynllun Coed Actif Cymru wrth ymyl Aberystwyth y math o brosiect y mae'r llywodraeth yn awyddus i'w annog ar gyfer y dyfodol. Y nod ydy ailgysylltu pobl a choetiroedd Cymru, a thrwy wneud hynny gwella'u hiechyd hefyd.

Mae Rhys Morgan sydd wedi bod yn ddall ers tua 10 mlynedd wedi gweld budd.

"'Dw i jest yn mwynhau bod mas yn y wlad a clywed yr adar a os bydd afonydd biti'r lle dw i'n clywed rheini a siarad gyda phobl. Mae e wedi rhoi rhywbeth newydd i fi. "

Canmol y cynllun mae Ruth Davies hefyd: "Mae e yn bwysig i fi achos fy iechyd i, bod fi'n cadw i symud. Chi ddim yn mynd yn depressed o gwbl.

"Mae'n neis cael bod allan, cwrdd a pobl newydd a jest ddim edrych nôl."

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae swyddi a sgiliau yn fater pwysig i bobl ar gyfer y dyfodol yn ôl yr arolwg

Mwy na 'darn o bapur'

Yn ôl Haf Elgar, ymgyrchwraig gyda Chyfeillion y Ddaear mae angen i'r bil fod yn un cryf:

"Dydyn ni ddim eisiau darn o bapur fydd yn eistedd ar ddesgiau ar draws Cymru ac y bydd pobl yn ystyried ond ddim yn gweithredu arno. Ac i wneud hyn mae'n rhaid bod 'na ddyletswydd cryf yn y bil ar awdurdodau cyhoeddus i weithredu."

Mae adroddiad y comisiynydd cynaliadwyedd, Peter Davies, sydd yn nodi canlyniadau'r drafodaeth yn cael ei chyhoeddi i gyd fynd gyda'r bil.

Yn ystod y misoedd nesaf mi fydd 'na fwy o drafod gan ganolbwyntio ar sut mae mesur llwyddiant y ddeddfwriaeth newydd.

Mae disgwyl i'r ddeddf ddod i rym yn y gwanwyn.

Straeon perthnasol