Cwblhau gwaith trwsio camlas
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith i drwsio camlas gafodd ei difrodi gan y tywydd garw dros y gaeaf wedi ei gwblhau.
Fe osododd Glandŵr Cymru - yr ymddiriedolaeth sy'n gofalu am gamlesi ac afonydd yng Nghymru - 500 o binau rhwng 10 a 15 metr o hyd, mewn dau le ar lan Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog.
Fe lithrodd rhan o'r tir ar lan y gamlas yn Llanfoist yn y Bannau Brycheiniog, wedi iddi lawio'n drwm.
Fe gostiodd y gwaith £1 miliwn, oedd yn cynnwys rhoddion gan y cyhoedd a £50,000 gan lywodraeth Cymru.
Er i'r gamlas - sy'n 200 oed - ail-agor i gychod fis Ebrill, roedd angen rhagor o waith adnewyddu. Yn ogystal â'r pinau, fe gafodd rhwyll ei gosod i roi sylfaen i ochr y gamlas.
Erbyn hyn, mae'r llwybr wrth ochr y gamlas wedi agor yn llawn, gan olygu nad yw cerddwyr a beicwyr bellach yn cael eu dargyfeirio.
Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn 35 milltir o hyd, yn cyflogi 390 o bobl, ac yn cyfrannu £17 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn.
Fe ddywedodd cyfarwyddwr gweithredoedd Glandŵr Cymru, Vince Moran:
"Mae hon wedi bod yn dasg anferth. Mae'r gamlas yn hynod bwysig i'r gymuned a'r economi, felly 'ry ni wrth ein boddau bod y prosiect wedi bod mor llwyddiannus.
"Fe weithion ni'n gyflym i ddelio gyda'r broblem pan ddaeth y tywydd gwlyb."
Fe ddiolchodd Mr Moran i'r gymuned am eu cymorth a'u cefnogaeth.
Straeon perthnasol
- 24 Chwefror 2014