Williams yn arwyddo cytundeb newydd gydag Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae capten Clwb Pêl-droed Abertawe, Ashley Williams wedi arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd gyda'r clwb.
Roedd cytundeb yr amddiffynwr yn dod i ben ar ddiwedd y tymor nesaf, ac roedd wedi ei gysylltu gyda sawl clwb arall gan gynnwys Sunderland.
Daeth cadarnhad y bydd Williams yn aros yn ne Cymru tan 2018.
Ymunodd Williams, 29, â'r Elyrch o Stockport yn 2008.
Dywedodd: "Rydw i wrth fy modd i arwyddo cytundeb newydd yn Abertawe.
"Rydw i wedi mwynhau llwyddiant gwych gyda'r clwb ac rydw i am geisio parhau i helpu i Abertawe wella."