Dedfrydu adeiladwyr a dwyllodd bobl hŷn
- Published
Mae adeiladwyr a dwyllodd bobl hŷn yn ne Cymru wedi eu dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd. Fe wnaethon nhw dargedu pobl sy'n agored i niwed a'r henoed ledled yr ardal.
Plediodd y grŵp o bedwar yn euog i gynllwynio i dwyllo.
Maen nhw wedi rhedeg busnesau o dan nifer o enwau gwahanol - y prif un oedd Bellway Paving.
Clywodd y llys eu bod wedi twyllo 14 o berchnogion tai. Roedd yr ieuengaf yn 61 oed, yr hynaf yn 98.
Rhyngddynt, collodd y perchnogion tai £67,000 ar gyfer gwaith di-angen a gwael am waith trwsio y tu mewn a'r tu allan.
'Dieflig'
Mewn rhai achosion, roedd yr adeiladwyr yn ymosodol a bygythiol.
Cafodd Tom Connors, y dyn yn bennaf gyfrifol am Bellway Paving, ei ddedfrydu i 38 mis yn y carchar.
Cafodd Richard McCarthy ddedfryd o 24 mis, gyda mis ychwanegol am fethu ag ymddangos mewn gwrandawiad cynharach.
Cafodd y lleill - Ben Jones a Keith Palmer, ddedfryd ohiriedig o 11 mis o garchar.
Dywedodd y barnwr, Tom Crowther QC, eu bod wedi dangos diffyg llwyr o drueni a dynoliaeth, ac yn syml yn gweld y bobl am faint y gallent eu cymryd oddi wrthynt.
Mewn un enghraifft, roeddent yn ddidostur i'r pwynt o fod yn ddieflig, meddai'r barnwr.