Diwrnod olaf ymweliad brenhinol
- Cyhoeddwyd

Bydd y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn gorffen eu taith o amgylch Cymru ddydd Gwener.
Bydd y cwpl brenhinol yn gorffen eu taith haf eleni yn Aberhonddu, lle bydd cyfle iddynt ymweld â Chapel y Plough.
Mae'r capel hanesyddol wedi ei adnewyddu yn ddiweddar, a bydd cyfle i'r cwpl weld y gwaith sydd wedi ei gwblhau y tu mewn i'r adeilad.
Dechreuodd y cwpl eu taith ddydd Llun, gan ymweld â nifer o sefydliadau ar hyd a lled y dê drwy'r wythnos.
Torch i gofio
Ddydd Iau, fe osododd y Tywysog a Camilla dorch ar safle trychineb glofaol gwaethaf Cymru yn Senghennydd.
Aeth y cwpl i ymweld â'r gofeb genedlaethol yng Nghwm Aber lle bu farw 440 o ddynion yn 1913.
Croesawyd y cwpl brenhinol i'r safle gan noddwr y gymdeithas hanesyddol Roy Noble, wrth i Gôr Cwm Aber ganu yn y cefndir.
Rhoddodd y Tywysog deyrnged i'r rhai fu farw, a dywedodd bod "dyled o ddiolchgarwch" iddyn nhw.
Yn ddiweddarach, fe aeth Duges Cernyw i ymweld â phentref Brynbuga, er mwyn dathlu 50 mlynedd ers sefydlu cystadleuaeth y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, Britain in Bloom.
Aeth y Tywysog i weld hen ffermdy Cymreig o'r 15fed ganrif, sy'n cael ei adnewyddu gan y Landmark Trust.
Yna aeth ymlaen i Grughywel ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Straeon perthnasol
- 3 Gorffennaf 2014
- 1 Gorffennaf 2014
- 30 Mehefin 2014