Lle tân: Marwolaeth merch o Lanfairfechan

Roedd Lisa Jones yn 19 oed Image copyright Arall
Image caption Roedd Lisa Jones yn 19 oed

Mae Heddlu Sir Gaerhirfryn wedi cadarnhau bod merch 19 oed o Lanfairfechan ger Bangor wedi marw yn Ysbyty Wythenshawe, Manceinion, ar ôl i le tân awyr agored ffrwydro.

Fe alwyd y gwasanaethau brys i Duke Street yn Chorley yn Sir Gaerhirfryn ar Fehefin 21 ar ôl i'r ferch gael ei llosgi'n ddifrifol.

Yn ôl yr heddlu, roedd y ffrwydrad ar ôl i rywun geisio cynnau'r lle tân.

Cadarnhawyd mai Lisa Jones o Lanfairfechan oedd y ferch a fu farw.

Cafodd dyn 19 oed o ardal Chorley ei holi a'i ryddhau wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.

Mae ffeil wedi ei hanfon at y crwner.