Camerâu CCTV: Tro pedol ar eu diffodd gan Gyngor Môn
- Cyhoeddwyd

Bydd camerâu CCTV ar Ynys Môn yn dal i weithio am o leiaf y tri mis nesaf wrth i Gynghorau Tref yr ynys chwilio am ateb tymor hir i ariannu'r gwasanaeth.
Yn wreiddiol roedd y Cyngor Sir wedi penderfynu diffodd 47 o gamerâu yn Amlwch, Biwmares, Caergybi, Llangefni a Phorthaethwy ar 30 Mai, er mwyn arbed £177,000.
Roedd y penderfyniad yn rhan o arbedion effeithlonrwydd am fod cyllideb y awdurdod ar gyfer 2014-15 £7.5miliwn yn llai.
Ond roedd y cynghorau cymuned wedi cwyno nad oeddynt wedi cael digon o amser i drafod sut i barhau'r gwasanaeth er mwyn diogelu cyhoedd. Erbyn hyn bydd y camerâu ymlaen hyd ganol mis Medi.
Angen arian
Dywedodd Cliff Everett, clerc Cyngor Tref Caergybi ei fod yn gobeithio bydd y cynghorau tref yn gallu darganfod arian i barhau'r gwasanaeth ar ôl mis Medi.
Meddai: "Mae'r cynghorau yn gweithio gyda'n gilydd a'r bwriad ydi gwneud ceisiadau am arian i gadw'r gwasanaeth i fynd."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn hapus gweld y camerâu yn parhau i weithio. Dros y misoedd diwethaf mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Winston Roddick, wedi bod yn feirniadol o awdurdodau sy'n ystyried diffodd eu CCTV.
Dywedodd Mr Roddick: "Mae hwn yn fater eithriadol o bwysig sy'n rhoi tawelwch meddwl i'r cyhoedd ac yn helpu i atal a datrys troseddau.
"Mae hefyd yn ffordd dda o hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd, ar ein strydoedd, mewn ardaloedd chwarae plant, yng nghartrefi pobl sy'n agored i niwed ac o gwmpas , ac ar adegau o drychineb fel y stormydd a llifogydd diweddar."
Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn eu bod yn falch o allu gweithio gyda phartneriaid ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.
Straeon perthnasol
- 28 Mai 2014
- 17 Ebrill 2014
- 16 Rhagfyr 2013