Cymry Glastonbury

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunCroeso i Glastonbury!
disgrifiad o’r llunYn 2007, fe wisgodd Shirley Bassey welis wedi eu dylunio gan y Cymro Julien Macdonald cyn perfformio
disgrifiad o’r llunMarina and the Diamonds yn perfformio yn 2010. Dywedodd y gantores o Frynmawr ei bod hi bron a chrogi ar weiren meicroffon yn ystod ei pherfformiad.
disgrifiad o’r llunBu Syr Tom Jones yn perfformio rhai o'i glasuron fel Delilah, Sex Bomb ac Its not Unusal ar lwyfan y Pyramid yn 2009
disgrifiad o’r llunJames Dean Bradfield a'r Manic Street Preachers sydd wedi rhoi perfformiadau llawn egni sawl gwaith yn Glastonbury
disgrifiad o’r llunMi berfformiodd y band Joy Formidable or Wyddgrug ar 'The Other Stage' yn 2010 er gwaetha' rhai problemau technegol cyn dechrau
disgrifiad o’r llunMae Gruff Rhys eisoes wedi perfformio yn Glastonbury gyda'r Super Furry Animals ac eleni bydd yn arwain ymwelwyr yr wŷl ar daith "American Interior"
disgrifiad o’r llunRoedd Duffy yn bell o Warwick Avenue pan yn perfformio ar fferm Worthy yn 2008
disgrifiad o’r llunCafodd Colorama eu henwebu gan BBC Radio Cymru i berfformio ar lwyfan BBC Introducing yn 2009.
disgrifiad o’r llunMae Cerys Matthews wedi perfformio yn Glastonbury ddwywaith... gyda Catatonia yn 1998 a gyda'r Pet Shop Boys yn 2000
disgrifiad o’r llunYr Ods, un o'r bandiau Cymraeg sydd fu'n diddanu'r gwersyllwyr yn 2009 a 2010
disgrifiad o’r llunEleni fydd yr eildro i Cate Le Bon o ardal Castell Newydd Emlyn berfformio'n yr Ŵyl.
disgrifiad o’r llunBydd Kizzy Crawford, un o artistiaid Gorwelion yn perfformio yn Glastonbury eleni ar lwyfan BBC Introducing
disgrifiad o’r llunBand gwerin o Sir Fynwy yw Rusty Shackle
disgrifiad o’r llunGallwch glywed llais hudol, swynol Violet Skies o Gasgwent ar lwyfan BBC Introducing eleni