Diffodd tân 'sylweddol' ym Mhorthcawl

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Lloydwilliamsphotography
Disgrifiad o’r llun, Ar un adeg roedd tua dwy erw o laswellt ac eithin yn wenfflam

Mae criwiau tân wedi diffodd tân "sylweddol" ger glan y môr ym Mhorthcawl.

Nawr, mae swyddogion yn ymchwilio beth achosodd y tân ddydd Mercher.

Ar un adeg roedd tua dwy erw o laswellt ac eithin yn wenfflam ar y comin gyferbyn â'r rhodfa.

Mae pum injan dân o Borthcawl, Pen-y-bont, Y Bont-faen, Pen-coed a Phort Talbot wedi bod yno.

Cafodd dau dancer dŵr a dau gerbyd 4x4 eu galw i gynorthwyo.

Ffynhonnell y llun, South Wales Fire and Rescue
Disgrifiad o’r llun, Llun o'r awyr
Ffynhonnell y llun, Peter Morgan
Disgrifiad o’r llun, Mae pum injan dân wedi bod yno.

Straeon perthnasol