Owen Williams wedi dioddef 'anaf sylweddol'
- Cyhoeddwyd

Mae canolwr Cymru a'r Gleision Owen Williams wedi dioddef "anaf sylweddol" i'w wddf yn ystod twrnament yn Singapore, yn ôl y clwb.
Cafodd y chwaraewr 22 oed ei anafu wrth chwarae i'r Gleision yng nghystadleuaeth y World Club 10s ddydd Sul.
Mewn datganiad dywedodd y Gleision "fod Owen Williams wedi dioddef anaf difrifol i'w fertebra gyddfol a llinyn y cefn".
Mae ei deulu wedi teithio i Singapore.
Straeon perthnasol
- 24 Mehefin 2014