Suzanne yn cipio coron Cariad@Iaith
- Cyhoeddwyd

Suzanne Packer, yr actores o Gaerdydd, yw enillydd y gyfres Cariad@Iaith ar S4C eleni.
Daeth i'r brig yn y rownd derfynol nos Sadwrn ar ôl iddi hi a saith o sêr eraill dreulio wythnos yn Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn yn dysgu Cymraeg.
Mae Suzanne yn adnabyddus fel Tess Bateman ar gyfres Casualty y BBC, sy'n cael ei ffilmio ym Mhorth Teigr ym Mae Caerdydd.
Meddai, "Roedd hi'n dipyn o sioc i mi fy mod i wedi ennill ond ro'n i wedi gwirioni a dweud y gwir!
"Ond heb air o gelwydd mi wnes i weithio yn galed iawn iawn yn ystod yr wythnos".
Roedd rhaid i'r dysgwyr fwrw eu pleidlais gan ddweud pwy, yn eu tyb nhw, oedd yn haeddu ennill.
'Penderfynol o barhau'
Ychwanegodd Suzanne, "Roedd Cariad@Iaith yn brofiad arbennig, ac roedd y dull dysgu, desuggestopedia, yn gweithio yn wych i mi.
"Dwi wedi dod yn llawer mwy hyderus ac yn benderfynol o barhau - dw i eisoes wedi trefnu i gael gwersi un wrth un bob wythnos gyda Siân Jones yma yng Nghaerdydd."
Yn ôl un o'r tiwtoriaid, Nia Parry, roedd Suzanne yn llawn haeddu ennill: "Roedd Suzanne yn ddiwyd, yn weithgar ac yn gydwybodol yn y dosbarth, yn barod i daflu ei hun mewn a bod yn rhan o'r holl weithgarwch."
Cyflwynwyd gwobr i Suzanne, sef plât ceramig arbennig wedi ei ddylunio gan yr artist Buddug Humphreys, gyda'r frawddeg 'Cenedl Heb Iaith Cenedl Heb Galon' wedi ei hysgrifennu arni.
Roedd y saith dysgwr arall - yr actores Siân Reeves, y cantorion Ian 'H' Watkins o Steps a John Owen-Jones, y cyn gôl-geidwad rhyngwladol Neville Southall, enillydd 'Big Brother' 2013 Sam Evans, Jenna Jonathan o gyfres MTV 'The Valleys' a chyflwynydd tywydd y BBC, Behnaz Akhgar - hefyd yn derbyn llwy garu wedi ei dylunio gan Buddug.
Straeon perthnasol
- 19 Mai 2014