Stuart Gallacher yn ymddeol o Rygbi Rhanbarthol Cymru

Stuart Gallacher Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Stuart Gallacher

Mae Prif Weithredwr Rygbi Rhanbarthol Cymru, Stuart Gallacher wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol.

Yn 68 oed mae wedi ymwneud â rygbi Cymru ers dros 40 o flynyddoedd. Bu'n chwaraewr rhyngwladol yn rygbi'r undeb a'r gynghrair a threuliodd 13 o flynyddoedd yn Brif Weithredwr Llanelli ac yna rhanbarth y Scarlets.

Goruchwyliodd y trawsnewid i'r gêm broffesiynol, i rygbi rhanbarthol a'r symud o Barc y Strade i Barc y Scarlets.

Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw bu'r Scarlets yn bencampwyr y Gynghrair Geltaidd, mewn tair gêm gynderfynol yng Nghwpan Heineken ac unwaith yn rownd derfynol Cwpan yr EDF.

Bu'n Brif Weithredwr Rygbi Rhanbarthol Cymru ers 2009, a dywedodd: "Nid oedd byth yn mynd i fod yn hawdd i mi gamu o'r neilltu, yn enwedig ar ôl yr heriau'r blynyddoedd diwethaf - mae'r gêm wedi bod yn ganolog i'm mywyd.

"Ond mae'n amser nawr i grŵp galluog ac unedig yn rhanbarthau Cymru i symud pethau ymlaen".

Straeon perthnasol