Rhybudd am lygredd mewn afon
- Cyhoeddwyd

Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn ymchwilio i achos llygredd mewn afon sy'n llifo i Lyn Padarn ger Llanberis.
Mae arwyddion yn cael eu gosod ger Afon y Bala yn rhybuddio nofwyr i gadw draw.
Fe ddaeth y llygredd i'r amlwg ar ôl i Dŵr Cymru sylwi bod sylwedd wedi llifo i'w gwaith carthffosiaeth. Erbyn hyn mae'r hylif wedi llifo i Afon y Bala.
Mae arogl cryf yno ac roedd yr hylif i'w weld yn y dŵr. Mae amheuon mai tyrpant (neu turpentine) sydd wedi llifo i'r afon.
Mae swyddogion yn ymchwilio ac yn ceisio dod hyd i darddiad y llygredd. Mae asesiad yn digwydd hefyd er mwyn canfod unrhyw effaith ar fywyd gwyllt yr ardal.
Ym mis Mai fe gafodd Cyfoeth Naturiol Cymru orchymyn i ailymchwilio i lygredd yn Llyn Padarn yn dilyn adolygiad barnwrol.
Roedd CNC wedi cydnabod fod yna broblemau cyn i'r achos fynd i'r llys.
Straeon perthnasol
- 7 Mai 2014
- 10 Chwefror 2012