Diffoddwyr tân ar streic am 24 awr
- Cyhoeddwyd

Mae undeb y frigâd dân, yr FBU yn dweud bod 60 yn oedran rhy hen i weithio mewn swydd mor heriol
Mae diffoddwyr tân ledled Cymru ar streic am 24 awr, wrth i'r anghydfod dros bensiynau barhau.
Mae aelodau undeb y frigâd dân (FBU) yn gwrthwynebu cynlluniau i godi oed ymddeol o 55 i 60, a chynyddu cyfraniadau pensiynau.
Yn 24 awr o hyd, hon yw'r streic hiraf ers i ymgyrhch yr undeb ddechrau dair blynedd yn ôl.
Fe ddywedodd llywodraeth San Steffan fod gan ddiffoddwyr ymysg y cynlluniau pensiwn mwyaf hael yn y sector gyhoeddus.
Daw'r streic hon yn dilyn gweithred debyg ddechrau mis Mai.
Yn ystod streiciau blaenorol, mae gwasanaethau tân wedi defnyddio cynlluniau wrth-gefn yn cynnwys defnyddio staff nad ydyn nhw'n rhan o'r undeb, a blaenoriaethu digwyddiadau.
Straeon perthnasol
- 5 Mehefin 2014
- 4 Mai 2014
- 3 Mai 2014