Baton y Frenhines yn cyrraedd Y Rhyl, Moel Famau, a Rhuthun

Taith y Baton Prestatyn
Image caption Y baton yn cyrraedd Prestatyn

Mae Baton y Frenhines wedi bod yn Sir Ddinbych ar ddiwrnod olaf ei daith yng Nghymru.

Dydd Gwener yw seithfed diwrnod y baton yng Nghymru ac mae'n mynd i Foel Famau, Rhuthun a Llandegla yn y prynhawn.

Erbyn nos Wener bydd wedi teithio 731 o filltiroedd yng Nghymru.

Harbwr newydd

Y Rhyl oedd y lleoliad cyntaf ddydd Gwener a chafodd ei gario o amgylch yr harbwr newydd cyn cyrraedd Canolfan Feicio Marsh Tracks.

Y cludwr cynta oedd Nathan Montgomery. "Dwi'n falch mai fi yw'r cynta i wneud hyn yn Sir Ddinbych," meddai.

Dywedodd gohebydd BBC Cymru Steffan Messenger fod cannoedd o blant ysgol yn cefnogi'r baton ym Mhrestatyn lle oedd nifer o weithgareddau yn y ganolfan hamdden.

Image caption Yr ymateb i'r baton yn Y Rhyl

Alexander Pichushkin, 15 oed, gafodd ei ddewis i gario'r baton ym Mhrestatyn am iddo ysbrydoli plant ysgol lleol i gymryd rhan mewn chwaraeon.

"Mae hyn yn gyffrous," meddai, "dwi'n falch oherwydd fy ysgol wnaeth fy enwebu i."

Am 2.15 cyrhaeddodd y baton gopa Moel Famau. Roedd mwy na 100 o gerddwyr yn ei hebrwng a band samba'n chwarae ar y gopa lle tua 100 arall yn gwylio.

Roedd y baton yno am awr cyn i redwyr mynydd lleol ac aelodau tîm Glasgow ei hebrwng i lawr.

Wedyn cafodd ei gario mewn bws i Ruthun.

Megan ac Angharad Phillips o'r dre' sy' yn nhîm tenis bwrdd Cymru yn Glasgow.

Dywedodd Megan: "Roedd cario'r baton yn brofiad anhygoel ac mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad arbennig yn ein tre' ni."

"Mae'r paratoi ar gyfer y gemau wedi mynd yn dda," meddai Angharad.

"Mi fyddwn yn treulio llawer o amser yn hyfforddi yng Nghaerdydd ond mi fydd ennill medal yn her."

Image caption Bethan Lloyd Jones â'r baton ar y ffordd i fyny Moel Famau

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.