Dydd Gwener ar faes y 'Steddfod

Gruffudd
Image caption Gruffudd Antur aeth a'r Gadair - ond pwy aiff a'r Goron?

Diwrnod yr hogyn o Fro'r Eisteddfod eleni oedd hi ddydd Iau, wrth i Gruffudd Antur ennill y Gadair am yr eildro.

Tybed ai llenor lleol fydd yn cipio'r Goron? Dyna brif seremoni dydd Gwener, am 14:30.

Tro disgyblion hŷn yr ysgol uwchradd ydy hi ar bumed diwrnod y cystadlu.

Yn ystod y nos, mae noson o gystadlaethau i gerddorfeydd neu fandiau.

Bwrlwm y maes

Image caption Mae'r Maes yn fwdlyd o dan draed ond mae pethau'n edrych yn obeithiol ar gyfer heddiw

Ar lwyfan perfformio'r maes, mae cyfle i wylio Colorama, Kizzy Crawford, Mr Huw, Chwalfa a Gwibdaith Hen Fran.

Mae hi'n parhau i fod yn wlyb dan draed ar feysydd Y Rhiwlas, felly wellingtons ydy gair y dydd eto heddiw.

Straeon perthnasol