Mam wedi marw yn naturiol ar ôl geni babi meddai crwner
- Cyhoeddwyd

Mi fuodd Anwen Wynne farw er i staff Ysbyty Gwynedd geisio atal y gwaedu
Mae cwest wedi dod i'r casgliad bod mam o Langefni wedi marw o achosion naturiol ar ôl geni plentyn yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Mi wnaeth Anwen Wynne, oedd yn 39, farw ym mis Gorffennaf y llynedd wedi llawdriniaeth cesaraidd brys.
Clywodd y cwest y dechreuodd Ms Wynne waedu yn drwm wedi i'w mab, Macs, gael ei eni.
Er i'r staff meddygol drio sawl gwaith i stopio'r gwaedu, gan gynnwys llawdriniaeth hysterectomi, mi gafodd hi drawiad ar y galon a bu farw.
Dywedodd y crwner Dewi Pritchard Jones bod Ms Wynne wedi marw o achosion naturiol ar ôl iddi golli lot o waed yn sgil y llawdriniaeth cesaraidd.