Pobl Cymru yn fodlon ag addysg ac iechyd, yn ôl arolwg
- Cyhoeddwyd
Mae mwyafrif pobl Cymru yn fodlon gyda'r addysg a'r gwasanaeth iechyd maen nhw'n derbyn, yn ôl arolwg cenedlaethol.
Mae'r arolwg yn awgrymu fod 92% o bobl yn fodlon gyda'r gwasanaeth gan ei meddyg teulu a'r un canran yn fodlon gyda'r addysg mae eu plant yn derbyn yn yr ysgol gynradd. 85% oedd y ffigwr ar gyfer addysg yn yr ysgolion uwchradd.
Sgôr o 6.4 allan o 10 a gafodd y gwasanaeth iechyd yn gyffredinol, a 6.3 oedd y ffigwr ar gyfer y system addysg.
Roedd 0 yn golygu gwael iawn, a 10 yn golygu da iawn.
Fe gafodd 14,500 o bobl dros 16 oed eu holi ar gyfer yr Arolwg, a gafodd ei gynnal gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r canlyniadau hefyd yn dangos fod:
- 57% o'r rhai a holwyd yn teimlo bod eu cyngor yn darparu gwasanaeth o safon uchel
- 78% yn teimlo bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn eu hardaloedd lleol yn cyd-dynnu yn dda
- 50% yn dweud eu bod yn medru cadw trefn ar eu biliau heb drafferthion
- 75% gyda mynediad i'r we sydd yn gynnydd o 2% ers 2012-13.
Gofynnwyd i bobl faint oedden nhw'n ymddiried mewn awdurdodau fel yr heddlu a gwleidyddion. Y system wleidyddol gafodd y sgôr isaf, sef 4.3.
Gofynnwyd i bobl pa mor fodlon oedden nhw gyda gwaith Llywodraeth Cymru - 5.8 oedd y sgôr, sef yr un peth ag yn 2012-13.
Straeon perthnasol
- 27 Ionawr 2014
- 13 Awst 2013