Gêm gyfartal i Forgannwg

Morgannwg Image copyright GCCC

Fe wnaeth Niall O Brien a Nathan Buck, oedd yn batio yn rhif wyth a naw , llwyddo i fatio am 22 pelawd cyn i'r glaw gyrraedd i sicrhau gem gyfartal i Sir Gaerlŷr yn erbyn Morgannwg.

Fe ddechreuodd yr ymwelwyr y diwrnod olaf ar 168-3, ond yna colli pum wiced mewn deg pelawd a hynny am naw rhediad yn unig.

Roedd hynny'n gadael Sir Gaerlŷr ar 182-8, 59 rhediad y tu ôl i Forgannwg.

Ond fe lwyddodd O'Brien (19 heb fod allan) a Buck i wella'r sgôr i 204-8, cyn i'r glaw rhoi diwedd ar obeithion Morgannwg.

Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2 - Morgannwg v. Sir Gaerlŷr - Stadiwm Swalec :-

Morgannwg 350-8 yn cael gem gyfartal gyda Sir Gaerlŷr 109 & 204-8

Morgannwg 12pwynt, Sir Gaerlŷr 7pwynt