Prifysgol Bangor: Coleg newydd yn Tsieina
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Bangor yn sefydlu coleg newydd yn Tsieina. Bydd 'Coleg Bangor' yn derbyn 200 o fyfyrwyr yn ninas Changsha, prifddinas talaith Hunan, ym mis Medi.
Mae'r cynllun ar y cyd rhwng y Brifysgol a'r Central South University of Forestry and Technology yn Tsieina yn golygu bydd y ddau goleg yn sefydlu coleg rhyngwladol yn cynnig cyrsiau mewn cyfrifeg, bancio, cyllid a pheirianneg electronig.
Maes o law y bwriad yw ehangu'r cyrsiau i gynnwys Coedwigaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol.
Bydd y myfyrwyr o Tsieina yn astudio am flwyddyn neu ddwy ym Mangor yn ystod y cyrsiau, ac fe fydd staff Prifysgol Bangor, ar y cyd â staff rhyngwladol, yn arwain y gwaith dysgu yn y ddwy wlad.
Dwy fil o fyfyrwyr
Mae gan y Brifysgol gynlluniau i ehangu'r coleg ymhen "ychydig flynyddoedd" i ddysgu 2,000 o fyfyrwyr.
Dywedodd Prifysgol Bangor fod ganddynt uchelgais i ddatblygu'r coleg yn ganolfan astudio dramor, ac fe allai myfyrwyr o Fangor deithio i Tsieina i astudio.
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Bangor :
"Mae hwn yn gytundeb hanesyddol i'r ddau sefydliad. Mae'n dod ag ansawdd ragorol addysg uwch a ddarperir gan Brifysgol Bangor yn nes at fyfyrwyr yn Tsieina ac ar y llaw arall mae'n rhoi cyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr ac academyddion Bangor i brofi addysg a syniadau yn Tsieina."